Tair Gwobr Fawreddog Arall Am Ddrama Deepcut
27 Aws 2008
Mae Deep Cut, drama newydd Sherman Cymru o Gaerdydd, sy’n sôn am yr hyn a ddigwyddodd ym Marics Deepcut, wedi ennill tair gwobr fawreddog arall yn dilyn eu perfformiadau hynod lwyddiannus yng Ng?yl Ymylol Caeredin, lle gwerthwyd pob tocyn.
Yn y Stage Awards a gynhaliwyd ddydd Sul enillodd Ciaran McIntyre, sy’n chwarae rhan Des James, y tad, wobr yr Actor Gorau, ac enillodd Rhian Blyth wobr yr Actores Orau am ei phortread o Jonesy, cydweithwraig Cheryl yn y fyddin.
Ennillodd Deep Cut hefyd Wobr Rhyddid Mynegiant Amnest Rhyngwladol (Amnesty International Freedom of Expression Award), sy’n cydnabod y cynyrchiadau yn yr ?yl sy’n gwneud cyfraniad arwyddocaol i ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd am faterion sy’n ymwneud â hawliau dynol.
Dywedodd John Watson, Cyfarwyddwr Rhaglen Amnest Rhyngwladol yn yr Alban:
”Mae Deep Cut yn esiampl wych o pam fod y Wobr Rhyddid Mynegiant yn bodoli. Dyma theatr o’r radd flaenaf, ond dyma ddrama sy’n ceisio gwneud mwy na diddanu - dyma ymdrech i newid y byd.”
Wrth dderbyn y wobr dywedodd Philip Ralph, awdur Deep Cut sy’n byw yn Abertawe:
“Ar fy rhan fy hun, y cyfarwyddwr Mick Gordon, a chast a chriw Deep Cut, ‘rydym yn falch iawn o gael derbyn y wobr hon - yn enwedig gan ein bod yn credu fod hyn yn arwydd clir o gefnogaeth Amnest a’r beirniaid i deuluoedd y pedwar milwr fu farw yn Deepcut, ac yn gyfiawnhad am eu brwydr hir am gyfiawnder.
“‘Rydym yn gobeithio y bydd yn pigo cydwybod y rheiny sydd wedi ceisio cadw’r gwir rhagddynt, ac efallai mai dyma fydd yr hollt yn yr argae fydd yn arwain at ymchwiliad cyhoeddus.”
Cynhyrchywd Deep Cut gan Sherman Cymru gan ddefnyddio deunydd gwreiddiol a thystiolaethau pwerus o lygad y ffynnon gan y rheiny oedd agosaf at y Preifat Cheryl James, o Langollen, Gogledd Cymru, un o’r pedwar milwr ifanc a saethwyd mewn amgylchiadau anesboniadwy rhwng 1995 and 2002. Mae’r ddrama’n dilyn brwydr teulu Cheryl am ymchwiliad cyhoeddus llawn er mwyn cael atebion gan y bobl oedd yn gyfrifol am ofal eu merch.
Yn ogystal â rhediad hynod lwyddiannus yng Nghaeredin, lle gwerthwyd pob tocyn, mae Deep Cut eisoes wedi derbyn dwy wobr arall yn ystod yr wythnosau diwethaf, gan gynnwys Gwobr y Fringe First, sy’n cymeradwyo gwaith newydd yn yr ?yl, a Gwobr yr Herald Angel am ragoriaeth cynhyrchu.
Meddai Mick Gordon, cyfarwyddwr Deep Cut:
“Mae Deep Cut yn cofnodi adeg arbennig iawn yn fy ngyrfa. Mae teimlo’n falch o ddarn o waith yn un peth. Mae bod yn rhan o wneud y peth iawn, mewn ymgyrchu yn erbyn anghyfiawnder, ac am wirionedd sydd y tu hwnt i theatr, yn beth arall eto. Mae’n wych fod ymgais a llwyddiant Deep Cut wedi cael eu cydnabod.”
Bydd Deep Cut yn dychwelyd i Gymru ym mis Medi gyda pherfformiadau yng Nghlwyd Theatr Cymru ar 9 - 13 Medi, ac yna yn y Sherman, Caerdydd ar 16 - 27 Medi.
