Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Nadolig @ Sherman!

10 Hyd 2008

Bydd Sherman Cymru yn cyflwyno dau o’r storiâu mwyaf poblogaidd i blant y Nadolig hwn. Y sioe ar y brif lwyfan i oedrannau 7+ yw addasiad newydd sbon o stori gyfareddol Hans Christian Andersen, The Snow Queen. Mae Brenhines yr Eira yn rheoli ei theyrnas hudolus â chalon o rew ac â gafael sydd fel dur. Pan mae darnau mân o ddrych hud yn hedfan i lygad Cei mae’n cael ei ddal yn ei swyn. Gyda Cei yn ei chynorthwyo mae gan Frenhines yr Eira gynllun arswydus: i rewi calonnau popeth byw a theyrn reoli byd sy’n llawn eira a rhew. Ymunwch â Gerda wrth iddi fynd ar antur enbyd i achub Cei, a’r byd, o grafangau Brenhines yr Eira.

Ysgrifennwyd y ddrama gan y dramodydd rhyngwladol Charles Way a’r cyfarwyddwr yw Anna Linstrum, sydd yn dod i’r Sherman ar ôl cyfnod o weithio ar The Sound of Music yn y West End yn Llundain. Mae The Snow Queen yn Sherman o 28 Tachwedd i 10 Ionawr.

Ein sioe eleni ar gyfer plant dan 7 ydy fersiwn dyfeisgar newydd o stori Cinderella. Mae’r ddrama yn dilyn helynt y tylwyth teg direidus, y Crimbils, wrth iddynt achub Cinders er mwyn iddi fynd i’r ddawns mewn pryd i gwrdd â’r Tywysog Fraximus. Gyda cherddoriaeth, pypedau, dawnsio a chyd-ganu mae’r sioe yn wledd Nadoligaidd berffaith i blant.

Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Cinders gan Louise Osborn ac mae’r cast yn cynnwys Zoe Davies, Hannah McPake, Katy Owen and Jack Reynolds. Mae’r cynhyrchiad yn agor yn Sherman ar 31 Hydref - 1 Tachwedd cyn mynd ar daith o amgylch Cymru ac yna dychwelyd i Sherman o 2 - 27 Rhagfyr.