Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Smithsonian

20 Meh 2009

Bydd Sherman Cymru yn ymweld â Washington yr wythnos nesaf i ymuno â’r Studio Theatre gowbrwyol i gyflwyno darlleniadau o rai o’r dramâu cyfoes gorau o Gymru mewn prosiect o’r enw  Geiriau o Gymru: Theatr Gymreig

Bydd Geiriau o Gymru: Theatr Gymreig yn digwydd  dros ddau benwythnos (Dydd Sadwrn 27 – Dydd Sul 28 o Fehefin a Dydd Sadwrn 4 – Dydd Sul 5 o Orffennaf) fel rhan o Wales Washington Cymru, rhaglen amrywiol o weithgaredd diwylliannol fydd yn cyd-redeg gyda rhaglen Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian eleni, pan roddir sylw arbennig i ddiwylliant Cymru.

Dywed Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru:

'Rydym ni wrth ein bodd cael bod yn rhan o’r prosiect hyn a chydweithio gyda’r Studio Theatre, yn enwedig gan ystyried cefnogaeth gyson y Studio i ddramâu o safon o’r DU dros y 30 mlynedd diwethaf. Mae dramodwyr o Gymru wedi gwneud cyfraniad neilltuol i theatr ym Mhrydain dros yr un cyfnod, gyda Peter Gill, er enghraifft, ar flaen y gad ym myd ysgrifennu newydd i’r theatr’

Bydd Sherman Cymru yn cyflwyno darlleniadau o The Drowned World gan y dramodydd nodedig Gary Owen a the cloak room, gan yr awdur ifanc, Tracy Harris.

Bydd The Studio Theatre yn cyflwyno pum darlleniad, gan gynnwys House of America gan Edward Thomas, a addaswyd yn ffilm ym 1997 (gyda’r cast yn cynnwys Siân Phillips a Mathew Rhys) a gwaith Ian Rowlands Marriage of Convenience sydd wedi ei osod ar ddiwrnod Priodas Frenhinol Charles a Diana. Mae gŵr ifanc yn mynychu picnic gweriniaethol tra bod ei fam a’i lysdad yn mwynhau parti stryd draddodiadol yn y cwm islaw.

Bydd The Studio Theatre hefyd yn cyflwyno Indian Country gan Meic Povey, Art and Guff gan Catherine Tregenna a Cardiff East  gan Peter Gill. Mae rhestr gyflawn o ddigwyddiadau yn dilyn islaw.

Am fwy o fanylion am Ŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian ewch i Folklife

Am fwy o fanylion am The Studio Theatre, Washington, ewch i Studio Theatre

Amserlen gyflawn - Geiriau o Gymru: Theatr Gymreig

Dydd Sadwrn 27ain o Fehefin
Hanner Dydd: Cardiff East gan Peter Gill (cyflwynir gan The Studio Theatre)
5yh - the cloak room (cyflwynir gan Sherman Cymru_

Dydd Sul 28ain o Fehefin
Hanner Dydd: Indian Country gan Meic Povey (Cyflwynir gan The Studio Theatre)
5 y.h. - Marriage of Convenience gan Ian Rowlands (Cyflwynir gan The Studio Theatre)

Dydd Sadwrn Gorffennaf 4ydd
5 y.h - House of America gan Edward Thomas (Cyflwynir gan The Studio Theatre)

Dydd Sul Gorffennaf 5ed
Hanner Dydd: Art and Guff gan Catherine Tregenna (Cyflwynir gan The Studio Theatre)
5 y.h - The Drowned World  gan Gary Owen (Cyflwynir gan Sherman Cymru)