OCC: Artworks
01 Gor 2011
Mae Opera Cenedlaethol Cymru (OCC) wedi ei ddewis i arwain yng Nghymru mewn prosiect datblygu arbennig Dydd Iau 19 Mai, sy’n cael ei lansio heddiw gan Sefydliad Paul Hamlyn. Nod y Fenter Arbennig o £1.47m yw tynnu sylw at brofiadau’n cael eu harwain gan artistiaid mewn lleoliadau cymunedol ledled Prydain, a chodi safon y rheiny. Gwneir hyn drwy sefydlu pum partneriaeth fraenaru dan ymbarél ArtWorks: Datblygu Arfer mewn Lleoliadau Cymryd Rhan.
Dros y tair blynedd nesaf bydd ArtWorks Cymru, dan arweiniad OCC, yn dechrau ar raglen ymchwil a datblygu uchelgeisiol, gan droi at brofiad rhai o brif gyrff celfyddydol a sefydliadau Addysg Uwch Cymru, sef Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Sherman Cymru, Streetwise Opera, Cerddoriaeth Gymunedol Cymru, Dawns Gymunedol Cymru, Head for Arts a Phrifysgol Morgannwg.
Dros y tair blynedd nesaf, bydd pob un o’r sefydliadau hyn yn creu ei brosiect ymchwil ei hun, gan weithio ar draws gwahanol ffurfiau celfyddydol. Y bwriad yw nodi a rhannu arfer da yn y maes, gan weithio gyda chyfuniad o artistiaid i greu prosiectau cymryd rhan o safon mewn lleoliadau cymunedol yng Nghymru, yr Alban, Llundain a Gogledd Ddwyrain Lloegr. ArtWorks “Navigator” yw’r pumed braenarwr. Nid sefydliad rhanbarthol yw hwn, ond yn hytrach mae’n dod ag amrywiol gyrff ymbarél ynghyd.
Bydd OCC yn cyflwyno’r prosiect ymchwil cyntaf yn y gwanwyn 2012, gan ddwyn ynghyd gantorion opera, cyfansoddwr ac awdur gyda grwpiau cymunedol yn Wrecsam. Byddant yn helpu creu penodau o opera sebon wahanol - stori’n cael ei chanu, nid ei llefaru - am Wrecsam a’i thrigolion. Caiff ei ffilmio a’i dangos ar-lein yn ystod cyfnod preswyl yn amgueddfa’r dref. Mae gan OCC enw da am gynhyrchu opera mewn mannau anarferol - gan gynnwys rhwng silffoedd archfarchnad ac ar lwyfannau gorsafoedd rheilffordd - yn sgil ei brosiect Caneuon Stryd yng Nghymoedd y De (2007 - 2010). Roedd hwnnw hefyd wedi ei gefnogi gan grant gan Sefydliad Paul Hamlyn.
“Mae ArtWorks Wales yn rhywbeth a fydd yn cyfoethogi ein gwaith mewn cymunedau yng Nghymru yn fawr iawn,” meddai Rhian Hutchings o OCC. “Rydyn ni’n gweithio’n rheolaidd mewn partneriaeth ag artistiaid a chyrff celfyddydol eraill yng Nghymru, ond mae hwn yn gyfle i ymchwilio i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yn y sector diwylliant, ac i wella hynny. Rydyn ni’n wirioneddol yn edrych ymlaen at archwilio yn y bartneriaeth fraenaru eang hon.”
Bydd y pum partneriaeth fraenaru yn ffurfio cymuned o arfer yn cael ei chydlynu gan Susanne Burns, Cyfarwyddwraig Prosiect ArtWorks. Meddai Régis Cochefert, Pennaeth y Celfyddydau yn PHF: “Mae cymryd rhan yn y celfyddydau’n cael effaith ddofn iawn ar les ac ansawdd bywyd, yn ogystal â hyrwyddo hunanfynegiant a bod yn sianel gyfathrebu i lawer o bobl o bob rhan o gymdeithas. Mae’n hanfodol inni weithio i gefnogi artistiaid i ddod â’r celfyddydau i mewn i fywydau pobl.”
I gael rhagor o wybodaeth, cyfweliadau neu luniau, cysylltwch â Penny Simpson, Pennaeth y Cyfryngau, OCC, ar 029 20 635036; penny.simpson@wno.org.uk; neu Daryl Jenner, Uwch Swyddog y Wasg, ar 029 20 635038, daryl.jenner@wno.org.uk, neu Ruth Greenwood, Swyddog y Wasg, ar 029 20 635037, ruth.greenwood@wno.org.uk





