Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Sherman Yn Cyflwyno Perfformiad Cefn Llwyfan Unigryw

16 Chw 2010

Bydd dros 100 o bobl ifanc yn meddiannu’r Sherman y mis yma ar gyfer perfformiad arbennig a gynhelir yn yr ystafelloedd gwisgoedd gwag ac ar hyd y coridorau. Y cyflwyniad hwn fydd yn cofnodi cau’r theatr ar gyfer y gwaith ailddatblygu.

Mis Chwefror eleni mae adeilad y Sherman yn cau am gyfnod o18 mis ar gyfer y gwaith ailddatblygu, diolch i grant o £3.9 miliwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd aelodau Theatr Ieuenctid Sherman Cymru’n meddiannu cragen wag yr adeilad er mwyn perfformio Oedipus | Antigone cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn. Meddai Phillip Mackenzie, y cyfarwyddwr:

“This is a unique opportunity to see the Sherman building used as never before. Over 100 young people retell the mythic tragedies of Oedipus and Antigone. The audience will follow the drama as it unfolds in the empty dressing rooms and abandoned corridors, across the deserted foyer, and in the darkened auditoriums of the theatre.” 

 

Oedipus | Antigone yw’r drioleg Roegaidd sy’n adrodd hanes Oedipus, yn ddiarwybod iddo, a laddodd ei dad a phriodi ei fam, ac Antigone, chwaer a merch Oedipus.

Bydd y gwaith ailddatblygu ar adeilad y Sherman yn gwella profiad y cynulleidfaoedd yn aruthrol pan fyddant yn ymweld â’r theatr yn y dyfodol, gyda’r ardal blaen t?’n cael ei ailwampio’n llwyr, a gwedd newydd sbon yn cael ei roi ar wyneb yr adeilad. Bydd hefyd seddi, a systemau gwresogi ac awyru newydd yn cael eu gosod, a mynediad i bob ardal o’r adeilad yn cael ei wella. Mae Sherman Cymru’n parhau i godi’r £1.5 miliwn sydd ei angen ar y prosiect o hyd. Bydd Sherman Cymru’n parhau i gynhyrchu gwaith mewn mannau eraill yng Nghaerdydd a thu hwnt yn ystod y cyfnod pan fydd yr adeilad ar gau.

Rhagor o wybodaeth am Oedipus | Antigone

Rhagor o wybodaeth am ailddatblygu’r Sherman

Logo