Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Deiseb Deepcut

19 Med 2008

Yn dilyn llwyddiant ysgubol diweddar drama Deep Cut Sherman Cymru, mae teuluoedd y pedwar milwr fu farw mewn amgylchiadau anesboniadwy ym Marics Deepcut wedi lansio apêl am ymchwiliad cyhoeddus.

Mae Deep Cut, a enillodd glod gan y beirniaid, yn ogystal â llu o wobrau, yng Ng?yl Ymylol Caeredin eleni, yn defnyddio tystiolaethau pwerus a deunydd gwreiddiol o lygad o ffynnon, gan y rheiny oedd agosaf at y Preifat Cheryl James, un o’r pedwar milwr ifanc fu farw o ganlyniad i gael eu saethu mewn amgylchiadau anesboniadwy rhwng 1995 a 2002.

Mae’r teuluoedd yn awr wedi ail-lansio eu hapêl, ac wedi cyflwyno deiseb ar-lein er mwyn annog y Prif Weinidog i ganiatáu ymchwiliad cyhoeddus llawn i’r marwolaethau.

Gwefan Deepcut Families Fight For Justice