Plum (...and Me, Will!) Wedi Ei Enwebu Am Wobr Brydeinig Bwysig
31 Maw 2011
Mae Plum (…and me, Will!), a ysgrifennwyd gan Louise Osborn ac a gynhyrchwyd gan Sherman Cymru fel eu sioe Nadolig 2009 i blant dan 7 oed, wedi ei enwebu am Wobr Brian Way Theatre Centre 2011. Mae’r wobr yn dathlu’r dramâu gorau i blant a phobl ifanc, a bydd yr enillydd yn derbyn siec am £6000 mewn seremoni yn Llundain ar 14 Ebrill.
Mae Louise Osborn, fu hefyd yn gyfrifol am gyfarwyddo Plum (…and me, Will!), wedi gweithio gyda nifer o gwmnïau o Gymru. Bu gynt yn un o Gyfarwyddwyr Artistig Theatr Powys, ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt i Gwmni Theatr Hijinx. Mae hefyd wedi treulio rhai blynyddoedd yn ysgrifennu i Hollyoaks, un o raglenni Channel 4. Wrth gael ei henwebu am y wobr, meddai:
“I was thrilled to be short-listed. Theatre Centre received a record number of submissions for this award, so it’s an honour to be in the final six. Making resonant, quality theatre for young people is hugely important to me and it can be very hard work, so it’s lovely to feel that my work has been recognised in this way!”
Dywedodd Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru:
“We’re delighted that Plum (…and me, Will!) and Louise have been nominated for this award. We commissioned and produced Plum (…and me, Will!) as our 2009 Christmas show for the under 7s and had a fantastic response from children, parents and teachers alike. At Sherman Cymru we very much admire Louise’s passion and commitment to writing and creating theatre specifically for children and young people, and the UK-wide recognition of this that the Theatre Centre nomination brings is well deserved.”
Am ragor o wybodaeth, delweddau/lluniau neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch ag Alice Baynham ar 029 2064 6967 neu drwy e-bost ar alice.baynham@shermancymru.co.uk





