Sherman Cymru Yn Cyhoeddi Dwy Ddrama Nadoligaidd I Blant
13 Rha 2010
Mae Sherman Cymru yn gynhyrchwyr profiadol ym maes theatr i blant, fel oedd Cwmni Theatr y Sherman o’i flaen. Ond am y tro cyntaf erioed, mae’r cwmni wedi cyhoeddi dwy ddrama hwyliog yn barod ar gyfer yr Ŵyl. Cinders a Plum (and me, Will!), y naill ar ôl y llall oedd cynhyrchiadau Nadolig Sherman Cymru ar gyfer ein cynulleidfa ieuengaf yn 2008 a 2009. Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y ddwy ddrama gan Louise Osborn ac fe'u cyflwynir yn awr gyda’i gilydd mewn un cyfrol. Lluniwyd y ddwy ddrama yn arbennig ar gyfer cynulleidfa dan saith oed a gall oedolion neu blant eu perfformio.
Mae Cinders yn ailedrych, yn ddychmygus a hyfryd, ar hen stori. Mae'n rhaid i'r tylwyth teg direidus, y Crimbils, achub Cinders a sicrhau ei bod yn cyrraedd Y Ddawns a chyfarfod Tywysog Fraximus mewn pryd neu mae perygl y bydd un o’r Chwiorydd Hyll yn dod yn Frenhines y wlad i gyd gan droi popeth ben i waered, neu i ddyfynnu’r Crimbils “topsy turvy, upsy downsy, horriple, horriple!!”
Yn Plum (...and me, Will!) mae Will mewn helbul mawr! Byth ers dyfodiad ei chwaer fach newydd, drewllyd mae o’n dragwyddol golli ei dymer, ac yn ei wylltineb mae o wedi torri Plum, tylwythen deg arbennig ei fam ar gyfer y goeden nadolig. Ond yna mae Plum, y dylwythen, yn dod yn fyw, yn gyfangwbl hudol. Mae’n rhaid iddi hi a Will fynd ar antur swynol, lle mae gofyn iddynt wynebu, a gorchfygu sawl her amhosibl, gan ddysgu llawer iawn am ei hunain, a sut i fod yn ffrind da.
Dywed Arwel Gruffydd, Cyfarwyddydd Cyswllt Sherman Cymru:
"Mae cyhoeddi dramau i blant yn y DU yn ddigwyddiad anghyffredin, ac mae Sherman Cymru yn hynod falch o ddatblygu ein hymlyniad i’r oedran hwn gan gyhoeddi’r ddwy ddrama swynol hwn a gyfer y Nadolig. Rydan ni’n gobeithio y byddant nid yn unig yn gronicl o'n cyflawniad gyda phlant yr oedran yma ond hefyd yn adnodd i athrawon, tiwtoriaid ayyb sydd yn ceisio ysbrydoli a diddanu cynulleidfaoedd ifainc iawn mewn ysgolion ac yn y gymuned. Hefyd, mae nhw’n llawer o hwyl i’w darllen."
Mae’r dramau ar werth ar Amazon ac maen nhw hefyd ar gael yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod y rhediad yno o gyd-gynhyrchiad Sherman Cymru a Theatr Iolo o Sioe Nadolig eleni, sef Snow Child/Plentyn yr Eira. Bydd Plentyn yr Eira/Snow Child yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 14 Rhagfyr-1 Ionawr. Am amseroedd, ewch i www.wmc.org.uk Pris tocynnau yw £6 a gellir archebu trwy ffonio 029 2063 6464 neu archebu ar y we – www.wmc.org.uk
Cyhoeddir Cinders a Plum (and me, Will!) gyda chefnogaeth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru.
Am ragor o wybodaeth, delweddau/lluniau neu i drefnu cyfweliadau, cysylltwch ag Alice Baynham (Pennaeth Dros-Dro Marchnata a Chysylltiadau) ar 029 2064 6967.





