Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


RAW / AMRWD

20 Mai 2011

Sherman Cymru’n cyflwyno dwy ddrama newydd fel rhan o fenter RAW / AMRWD

Mis Mehefin eleni bydd Sherman Cymru’n cyflwyno ail ddigwyddiad RAW / AMRWD, dwy ddrama gan ddau awdur sy’n datblygu. Dyma Amy Hodge, Cyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru (fydd yn cyfarwyddo The Sanger, un o’r dramâu,) yn egluro beth yw cysyniad RAW / AMRWD:

“With a scheduled three RAW productions this year, we are significantly increasing our output of new plays. We want to get as much great new work as we can out there and in front of an audience in a way that isn’t possible with all the demands of a full-scale production, but still with a professional cast and a Sherman Cymru commitment to quality. Put bluntly, it’s no frills theatre - the writing itself will be the main event with things like set and lighting design really stripped back.”

Mae’r ddwy ddrama newydd yn adlewyrchu’r gwrthdaro sy’n digwydd yn Afghanistan. Ysgrifennwyd The Sanger gan Foster Marks sydd wedi gwasanaethu fel gweithredwr radio yn y Fyddin Diriogaethol, ac wedi cwblhau dwy daith yn Nhalaith Helmand, Afghanistan. Dyma sydd ganddo ef i’w ddweud am y broses ddatblygu:

“Coming predominantly from a film background I was surprised, and obviously very pleased, at the openness with which theatre companies were prepared to read new and unsolicited writing. Sherman Cymru were the first theatre I sent ‘The Sanger’ to and from the moment that they invited me in for a chat their support has been pretty much continuous. From attending their advanced writers course, then read-throughs and finally a RAW production, they have helped me turn some longhand scenes hastily scribbled down in the backwaters of Helmand into a polished piece of theatre.”

Tân Mewn Drain yw’r ail ddrama, a ysgrifennwyd gan Dyfed Edwards, hon oedd drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 2009. Meddai Dyfed:

"’Rwyf wrth fy modd fod Tân Mewn Drain am gael ei llwyfannu. Nid yw drama’n dod yn fyw go iawn nes ei chynhyrchu - glasbrint yn unig yw hi nes bydd yr actorion yn ei pherfformio, cyfarwyddwr yn ei chyfarwyddo, a chynllunwyr yn ei chynllunio. Dyma’r tro cyntaf i un o’m dramâu i gael ei llwyfannu, ac ‘rwy’n hynod gyffrous. Mae wedi bod yn wych gweithio gyda Sherman Cymru. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy. Mae Arwel Gruffydd a Sian Summers wedi bod yn rhagorol, ac yn sicr wedi cyfrannu at fy natblygiad i fel dramodydd. Mae gweithio gyda’r cyfarwyddwr Sara Lloyd a’r cast ardderchog hefyd wedi bod yn gyffrous ac yn fuddiol. Fedrai ddim aros i weld Tân Mewn Drain yn dod yn fyw ar y llwyfan ym mis Mehefin."

Cyflwynir RAW / AMRWD yn Chapter 8 - 11 Mehefin. Mae amserlen gyflawn a gwybodaeth am docynnau ar gael yn Swyddfa Docynnau Chapter ar 029 2030 4400 neu ar-lein ar www.chapter.org