Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Sherman Cymru'n Cyhoeddi Rhaglen Gwanwyn/Haf 2012 Cyn Ailagor Adeilad Y Theatr

16 Tac 2011

Heddiw mae Sherman Cymru wedi datgelu’r rhaglen waith fydd yn cael ei chyflwyno yn yr adeilad newydd pan fydd yn ailagor ym mis Chwefror 2012. Gall archebwyr â blaenoriaeth archebu eu tocynnau ar hyn o bryd, ond nid yw’r tocynnau ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol tan 28 o Dachwedd. Meddai Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Artistig Sherman Cymru:

’Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r rhaglen fydd yn ail-agor Sherman Cymru, gan nodi’r cyfnod pan fyddwn yn dychwelyd i’r adeilad sydd wedi ei ailwampio o’r newydd. Mae’r rhaglen yn ffenest siop ardderchog i Sherman Cymru, ac ynddi ceir cymysgedd ragorol o gwmnïau ac artistiaid o Gymru, y DU ac o bedwar ban byd. Bydd yn cynnwys gwaith y byddwn ni’n ei gynhyrchu’n fewnol; ysgrifennu newydd gwirioneddol wych fydd yn cael ei weld am y tro cyntaf; a gwaith a grëwyd gan ein tîm Dysgu Creadigol. ‘Rydym ni o’r farn fod y tymor agoriadol yma’n un cryf, a gobeithio bydd yn rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod Sherman Cymru am y tro cyntaf, neu ei ail-ddarganfod o’r newydd. ‘Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu cynulleidfaoedd yn ôl i’n cartref newydd.”

Yn dilyn ein penwythnos ‘T? Agored’ ar 4-5 o Chwefror, y cynhyrchiad cyntaf fydd yn cael ei gyflwyno yn yr adeilad o 7-11 o Chwefror, fydd Sgint gan Bethan Marlow, cyd-gynhyrchiad Cymraeg rhwng Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri, Caernarfon. Cawn glywed llais y bobl, fydd yn taflu golwg ddidwyll a ffres ar y wasgfa economaidd bresennol, a sut mae’n effeithio bywydau pobl o bob math.

O 15-18 Chwefror, bydd noddwr ymgyrch ailddatblygu Sherman Cymru, Sian Phillips, yn perfformio yn Lovesong gan Frantic Assembly - drama hiraethus, brydferth am gariad oes, a ysgrifennwyd gan Abi Morgan a aned yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith ar gyfer y sgrin yn cynnwys y ddrama boblogaidd The Hour ar gyfer y BBC, a Sex Traffic (Channel 4) a enillodd wobr BAFTA.

Mae Tim Price, un o gyd-sylfaenwyr Dirty Protest, yn dychwelyd i Gaerdydd gyda’i ddrama newydd, For Once, drama ddoniol, dywyll a gyflwynir gan Pentabus Theatre mewn cydweithrediad â Sherman Cymru o 23 Chwefror - 3 Mawrth. Mae’r ddrama’n mynd yn syth at galon cymuned sydd, yn sgil trasiedi, wedi ei throi wyneb i waered.

Bydd Catherine Wheels, cwmni theatr i blant sydd wedi ei gwobrwyo, yn cyflwyno White o 17-21 Ebrill - ‘roedd y sioe chwareus a hynod weledol yma’n llwyddiant mawr yng Ng?yl Ymylol Caeredin, ac mae’n berffaith ar gyfer profi theatr am y tro cyntaf.

CyflwynirClytemnestra, a ysgrifennwyd gan Fardd Cenedlaethol Cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, ac a gynhyrchir gan Sherman Cymru, o 18 Ebrill - 5 Mai - fersiwn newydd sbon o’r chwedl Roegaidd sy’n canolbwyntio ar odineb, ar b?er ac ar ddial.

O 15-16 Mai, bydd Hofesh Shechter, y coreograffydd rhyngwladol adnabyddus, yn dychwelyd i Sherman Cymru gyda Political Mother – darn o waith eithriadol i 10 dawnsiwr, ag awyrgylch cyngerdd roc.

Yn ystod y tymor, sy’n cynnwys mwy na 30 o wahanol berfformiadau, byddwn hefyd yn cyflwyno Cerys Matthews, National Theatre Wales, Belarus Free Theatre, Grid Iron a Matthew Bourne.

Gall archebwyr â blaenoriaeth archebu eu tocynnau ar hyn o bryd, ond nid yw’r tocynnau ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol tan 28 o Dachwedd. Gellir archebu tocynnau a chael gwybodaeth gyflawn am y tymor newydd o Swyddfa Docynnau Sherman Cymru ar 029 2064 6900 neu ar-lein