Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Aelod O'r Gynulleidfa'n Cyfrannu Ei Gar I Helpu'r Ymgyrch Godi Arian

11 Chw 2011

Mae un o ffyddloniaid y theatr yng Nghaerdydd wedi penderfynu rhoi ei gar yn rhodd elusennol werthfawr iawn, gan wneud cyfraniad i Gynllun ‘Scrap a Car’ Sherman Cymru.

Mae’r Doctor Jez Williamson, o Cathays, Caerdydd, wedi penderfynu rhoi ei hen Vauxhall Astra, nad yw ei eisiau mwyach, i Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru, fel ffordd o helpu’r theatr gyda’r ymgyrch godi arian.

jezz
Meddai Doctor Williamson, “Mae gennyf atgofion melys iawn o’r Sherman. A dweud y gwir, fy mhrofiad theatrig cyntaf oedd dod gyda’r ysgol i weld ‘Fantastic Mr Fox’ rhyw Nadolig. Ers hynny, fel myfyriwr ac wedi imi raddio, ‘rwyf wedi gweld comedïwyr penigamp yno, ac ambell ddrama arbennig o dda. Mae’r Sherman yn theatr wych, yn enwedig yn y rhan yma o Gaerdydd.” 

“Yn ystod y misoedd diwethaf ‘rwyf wedi bod yn mynd heibio’r theatr wrth fynd i’r gwaith ac wedi gweld sut mae’r adeilad yn newid, felly ‘roeddwn yn awyddus i gynnig fy nghefnogaeth mewn rhyw fodd.  ‘Roedd Giveacar yn gwneud synnwyr.  ‘Roeddwn i’n bwriadu cael gwared â’m hen gar, ac wrth wneud hyn gallaf gefnogi elusen leol ar yr un pryd, a helpu sicrhau fod cenedlaethau’r dyfodol yn cael yr un profiad theatrig ag a gefais i.”

Mae’r cynllun nid-er-elw yma, Giveacar, yn caniatáu i berchnogion ceir gyfrannu unrhyw gerbyd nad ydynt eu heisiau mwyach i elusen o’u dewis nhw.  Sherman Cymru yw un o’r unig elusennau yng Nghymru gyfan sy’n perthyn i’r cynllun yma.

Dywedodd Emma Goad, Pennaeth Datblygu Sherman Cymru:
“Mae Giveacar yn ffordd ardderchog i’n cynulleidfaoedd gefnogi ein hymgyrch ailddatblygu. Mae mor hawdd - clic neu ddau ar y botwm ar-lein.  Bydd Giveacar yn casglu unrhyw gar neu gerbyd, os yw’n addas ar gyfer ei yrru ar y ffordd ai pheidio, o unrhyw le yn y wlad, ac yn gwneud y cyfan yn rhad ac am ddim.”

“Mae’r ceir naill ai’n cael eu gwerthu mewn ocsiwn neu’n cael eu gwaredu’n unol â chanllawiau’r DVLA ac Asiantaeth yr Amgylchedd.  Bydd yr enillion o naill ai’r ocsiwn neu’r cynllun sgrap yn mynd tuag at ymgyrch ailddatblygu Sherman Cymru.  Mae’n ffordd wych o’n helpu ni i godi arian, yn ogystal ag o helpu’r amgylchedd.”

Un ffordd yn unig yw’r cynllun ‘Giveacar’ mae Sherman Cymru’n ei ddefnyddio i godi arian ar gyfer ailddatblygu adeilad y theatr, fydd yn costio cyfanswm o £5.4 miliwn.  Gobeithir ail-agor ddiwedd tymor yr hydref 2011.  Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynllun Giveacar, a sut i gefnogi ymgyrch ailddatblygu Sherman Cymru, byddwch mor garedig â tharo golwg ar ein gwefan Giveacar neu cysylltwch â’r Rheolwr Apeliadau, Suzanne Carter ar 029 2064 6970.