Dyddiad Cau ScriptSlam
10 Med 2010
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sgript ar gyfer Scriptslam mis Hydref yw dydd Iau 23ain Medi.
Mae ScriptSlam yn ddigwyddiad ble mae pum drama deng munud o hyd yn cael eu perfformio sgript-mewn-llaw gan griw o actorion proffesiynol. Wedi i bob drama gael ei pherfformio bydd panel o arbenigwyr o faes y theatr – awduron, actorion a chyfarwyddwyr – yn cynnig eu barn a’u sylwadau. Yna bydd y gynulleidfa’n pleidleisio dros eu hoff ddrama.
Er mwyn cyflwyno drama deng munud o hyd neu ddarn o ddrama hirach e-bostiwch Sian Summers
neu anfonwch sgript yn y post at: Sherman Cymru, Senghennydd Road, Cardiff CF24 4YE





