Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Byddwch Yn Rhan O SgriptSlam Sherman Cymru Yn Yr Eisteddfod

12 Mai 2011

Mae Sherman Cymru yn gwahodd sgriptiau neu olygfeydd ddeg munud o hyd i’r llwyfan, gan awduron newydd a chyffrous, ar gyfer ein prosiect poblogaidd, SgriptSlam, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.

Byddwn yn dewis naw sgript i’w datblygu a’u perfformio yn Thear y Maes ym mis Awst o flaen panel o arbenigwyr y theatr a chynulleidfa hwyliog. Bydd perfformiadau ar Ddydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener yr Eisteddfod, gyda’r gynulleidfa yn dewis eu hoff ddrama pob tro. Bydd enillydd dyddiol yn derbyn pecyn o ddramau a’r cyfle i ddatblygu fel awdur gyda Sherman Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer sgriptiau yw Mehefin 10fed, 2011.

Yn ogystal, hoffai Sherman Cymru glywed gan actorion a chyfarwyddwyr a fyddai’n hoffi gweithio ar y prosiect: bydd y cwmni’n talu costau teithio a mynediad i’r Eisteddfod i rai yn cymryd rhan.

Am fanylion pellach am gyflwyno sgriptiau neu weithio ar y prosiect, cysylltwch â Siân Summers ar sian.summers@shermancymru.co.uk