Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Sesiwn Adrodd Stori Noddedig Yn Helpu Codi Arian Ar Gyfer Ymgyrch Ailddatblygu

09 Meh 2010

Cynhaliodd y Saturday Sherbets, aelodau gweithdai bore Sadwrn Sherman Cymru, barti gwisg ffansi a sesiwn adrodd stori noddedig ar ddydd Sadwrn 29 Mai i helpu codi arian tuag at Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru.

Dysgodd pob un o aelodau’r Sherbets sydd rhwng 4 a 9 mlwydd oed, stori dylwyth teg adnabyddus ac yna’i hadrodd fel grŵp. ‘Roedd sialens galetach yn wynebu’r aelodau hŷn sydd rhwng 7 a 9 mlwydd oed, pan fu’n rhaid iddynt greu eu stori eu hunain ar y diwrnod. Beirniad eu sgiliau creadigol wrth adrodd y straeon oedd Paddy’r Clown, aeth yn ei flaen wedyn i roi perfformiad i’r 60 aelod o’r Sherbets oedd yn y digwyddiad (gan gynnwys môr-leidr, gwenynen, rhai tywysogesau a dafad!) mewn parti gwisg ffansi.

Sherman Sherbets Story-tell

Awgrymwyd y syniad o gynnal sesiwn adrodd stori noddedig a pharti gwisg ffansi gan un o’r Sherbets fel ffordd dda i’r grŵp godi arian ar gyfer Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru.

Ar hyn o bryd mae adeilad Sherman Cymru ar gau cyn i’r gwaith ailddatblygu sylweddol angenrheidiol gychwyn, yna bydd yn ail-agor yn ystod tymor yr hydref 2011. Bydd yr arian a godwyd yn dilyn y sesiwn adrodd stori noddedig o fudd uniongyrchol i aelodau’r Sherbets, yn ogystal â’r holl bobl ifanc fydd yn defnyddio’r adeilad a’r adnoddau yn y dyfodol. Bydd yr adeilad newydd yn trawsffurfio’r ardaloedd cefn llwyfan i greu amgylchedd gwell i bobl ifanc ddatblygu eu talentau creadigol.

Os hoffech ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y gallwch chi gefnogi ailddatblygu Sherman Cymru cysylltwch â Suzanne Carter, Rheolwr Apeliadau ar 029 2064 6970 neu drwy e-bost ar suzanne@shermancymru.co.uk

Sherman SherbetsSherman Sherbets -Girl in a fairy outfit