Llythyrau Sion Corn
10 Tac 2009
Beth am sicrhau y bydd eich ymweliad â’r theatr y Nadolig hwn yn fwy hudolus fyth? Beth am i’ch plentyn, neu’ch plant, dderbyn llythyr personol oddi wrth Siôn Corn?
Mae Siôn Corn yn gwybod popeth am eich cariad bach: ble mae’n byw; pa anrhegion mae’n dymuno eu cael fore Nadolig; y peth pwysicaf ddigwyddodd iddo, neu iddi, yn ystod y flwyddyn aeth heibio, a hefyd beth yw enw ei ffrind gorau. Mor gyffrous fyddai derbyn llythyr yn cynnwys yr holl wybodaeth bersonol yma, gan brofi fod Siôn Corn yn bodoli go iawn - a pha well ffordd i anog y plantos i ymddwyn eu gorau glas tan Ddydd Nadolig!
Am gyfraniad o £3 yn unig gallwch archebu llythyr personol gan Siôn Corn. £5 fyddai cost 2 lythyr personol, a £7 fyddai 3 llythyr. Bydd eich cyfraniad yn mynd tuag ein Hymgyrch Ailddatblygu gan sicrhau y bydd eich profiad chi, a miloedd o rai eraill, yn gwella’n ddirfawr pan fyddwch yn ymweld â’r Sherman newydd yn 2011.
Beth am roi sglein ychwanegol ar eich trip i’r theatr y Nadolig hwn a helpu achos da ar yr un pryd? Er mwyn archebu eich llythyr personol gan Siôn Corn, byddwch mor garedig â ffonio Swyddfa Docynnau’r Sherman ar 02920 646900.
