Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 


Perfformiad Cyntaf Gwaith Y Dramodydd Tracy Harris Yng Ngwyl Y Capital Fringe, Washington D.C

28 Gor 2010

Mynychodd y dramodydd Tracy Harris (y gwelwyd ei gwaith diwethaf ym mis Mehefin fel rhan o Cityscape Sherman Cymru) y 5ed Gŵyl Capital Fringe yn Washington D.C., ar gyfer llwyfaniad cyntaf gan gast o’r UD o'i gwaith, the cloak room.

Cynhyrchwyd the cloak room fel rhan o ŵyl Egin:SpringBoard yn 2009 ac fe'i dangoswyd yng Ngŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington y llynedd. Dywed Tracy Harris:

"Roedd gweld perfformiad cyntaf fy nrama gyda chast o’r UD yn brofiad gwych . Roedd yn dda i’w gweld ac i gael y cyfle i weld fy ngwaith y tu allan i Gymru. Gwnaeth yr actorion jobyn grêt ac mae'r Fringe yn le egniol i weld sgwennu newydd. Roedd yr ychydig nosweithiau cyntaf yn orlawn a daeth Danny Glover i'w gweld ar y noson agoriadol, oedd yn syrpreis braf!"

Mae ysgrifennu newydd yn ganolog i waith Sherman Cymru ac mae'n bwysig bod yna barhad i waith dramodwyr ar ôl cynhyrchiad cychwynnol, fel y noda Reolwr Llenyddol Sherman Cymru, Siân Summers:

"Mae hi’n ffantastig i Tracy a ninnau yn Sherman Cymru i weld ei gwaith yn cael ei rannu gyda chynulleidfa eang ryngwladol, yn enwedig gan fod cymaint o 'sgwennu newydd yn glanio ar y silff ar ôl y dangosiad cyntaf. Mae 'sgwennu Tracy yn fyrlymus a thelynegol, ac mae hi'n grêt gweld cydnabod ei thalent o ochr arall Môr yr Iwerydd.
Cafodd the cloak room dderbyniad gwresog iawn pan berfformiwyd y ddrama yn Venue 2 yr haf diwethaf, ac roeddem ni i gyd wrth ein boddau pan sylweddolom ni y byddai llwyfaniad ohoni fel rhan o Ŵyl y Capital Fringe."

Cafodd the cloak room ei pherfformio gan Mighty Theatre Company o dalaith Efrog Newydd. Cymra gipolwg diddorol ar ddyn sydd wedi ei lethu gan bobl a digwyddiadau ei orffennol i’r fath raddau fel na all barhau â'i fywyd o ddydd i ddydd. Mae Ruby, ei gariad, yn benderfynol i ddileu ei ddiafoliaid unwaith ac am byth.

Perfformiwyd the cloak room rhwng Gorffennaf 9-24, 2010 yn Fort Fringe – The Bedroom, Washington D.C. Ceir mwy o wybodaeth yma am Ŵyl y Capital Fringe: www.capfringe.org