Sherman Yn Gweithredu'r Gostyngiad Mewn TAW
12 Rha 2008
Mae’r Sherman wedi gostwng pris eu tocynnau yn dilyn y gostyngiad diweddar mewn TAW.
Yn dilyn cyhoeddiad Alastair Darling fod TAW am gael ei dorri o 17.5% i 15%, mae Sherman Cymru wedi penderfynu trosglwyddo’r gostyngiad i’w cwsmeriaid. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Chris Ricketts:
“’Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi gweithredu gostyngiad y Llywodraeth ar TAW ar bob un o’n tocynnau, a byddwn yn parhau â’r sefyllfa honno nes y bydd TAW yn codi eto ar ddiwedd 2009. Dros flwyddyn gyfan bydd y gostyngiad werth miloedd o bunnoedd, a ‘rydym yn ymwybodol fod yr arian hynny’n angenrheidiol i gymunedau De Cymru.”
Mae sioe Nadolig prif lwyfan y Sherman newydd agor, sef The Snow Queen, sydd wedi’i chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr o’r West End Anna Linstrum, a bydd yn rhedeg tan 10 Ionawr. Mae Cinders, y sioe Nadolig i blant iau (3 -6 oed) hefyd wedi dychwelyd i’r Sherman ar ôl bod yn teithio i gymunedau ledled Cymru.
Meddai Haleh Tozer, y Pennaeth Marchnata a Chysylltiadau Cwsmeriaid:
“Fel rhiant fy hun ‘rwy’n gwybod fod pob ceiniog yn help, ac oherwydd ein bod o’r farn y bydd hi braidd yn dynn ar nifer o deuluoedd y Nadolig hwn, ‘roeddem yn teimlo y dylem drosglwyddo’r gostyngiad yn y TAW i bris ein tocynnau. ‘Rydym yn gwybod fod y trip i weld sioe Nadolig yn draddodiad arbennig i nifer o deuluoedd, ac nid oeddem am weld neb yn colli cyfle.”
Bydd y gostyngiad yn y TAW hefyd yn berthnasol ar gyfer tocynnau tymor y Gwanwyn 2009. ‘Rydym newydd ddechrau gwerthu’r rhain. Mae ein rhaglen Wanwyn yn cynnwys cwmnïau dawns byd enwog, comediwyr adnabyddus a chynhyrchiad newydd o Small Change gan Peter Gill o Gaerdydd.
Tymor yr Gwanwyn Sherman 2009





