Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Llywodraeth Cynulliad Cymru'n Rhoi Hwb I Ymgyrch Ailddatblygu Sherman Cymru

15 Maw 2010

Mae'r arian ar gyfer cynllun hir-ddisgwyliedig ailddatblygu Sherman Cymru wedi cael hwb o  £130,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd Sherman Cymru, yr unig adeilad cynhyrchu theatr yn Ne Cymru, yn cael ei adnewyddu’n sylweddol dros y 18 mis nesaf.  Bydd y prosiect yn costio £4.6 miliwn i’w gwblhau, ac yn sicrhau y bydd y lleoliad yn cael ei drawsnewid ac y daw’r adeilad yn un o adeiladau mwyaf trawiadol  ardal Cathays, Caerdydd.

Daw’r grant o £130,000 gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfnod hollbwysig yn yr ymgyrch godi arian. Flwyddyn ddiwethaf derbyniodd Sherman Cymru Grant Cyfalaf Loteri gan Gyngor Celfyddydau Cymru oedd yn cyflenwi 74% o gyfanswm y gost.  Felly, ‘roedd gan y cwmni darged o £1.5 miliwn i’w gasglu er mwyn gwireddu’r cynlluniau hyn, ac er mwyn rhoi adeilad gwych i Gaerdydd ar gyfer cynhyrchu theatr.  Mae’r grant gan Lywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi hwb gwirioneddol i’r ymgyrch, ac yn ategu’r gefnogaeth anhygoel mae Sherman Cymru’n ei gael gan y cyhoedd drwy’r amrywiol ymgyrchoedd apêl.

Dywedodd Emyr Jenkins, Cadeirydd Sherman Cymru;
"’Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gweinidog dros Dreftadaeth am yr hwb amserol yma i’n cynlluniau i ddatblygu theatr gynhyrchu yn ein prifddinas y gallwn oll ymfalchïo ynddi. Mewn cyfnod o galedi economaidd, daw’r celfyddydau yn elfen fwyfwy pwysig yn ein bywyd bob dydd, ac ‘rydym yn gwerthfawrogi fod Llywodraeth Cynulliad Cymru’n dangos eu cefnogaeth mewn modd mor ymarferol."

Dywedodd Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Dreftadaeth:
“Es i ymweld â Sherman Cymru llynedd a chlywais am eu cynigion uchelgeisiol.  ‘Rwy’n falch fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi medru cyfrannu tuag at yr ymgyrch godi arian, ac yn gobeithio y daw cyfraniadau cystal i law o ffynonellau eraill.  Mae’r Sherman yn lleoliad annwyl iawn yng Nghaerdydd, ond ni fydd y cwmni’n cael gorffwys nac yn cael pum munud yn ystod y cyfnod pan fydd yr adeilad ar gau.  ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at waith Sherman Cymru yn ystod y cyfnod hwn, er enghraifft, y prosiect fyddan nhw’n ei gynhyrchu ar y cyd â National Theatre Wales yn yr hydref."

Am ragor o wybodaeth sut y gallwch gefnogi cynllun ailddatblygu Sherman Cymru, cysylltwch ag Emma Goad ar 029 2064 6975 neu drwy e-bost emma.goad@shermancymru.co.uk

Rhagor o wybodaeth am ailddatblygu’r Sherman

Logo