Wythnos Ffoaduriaid
18 Meh 2009
Mae Wythnos Ffoaduriaid 2009 wedi cael cic gychwyn arbennig gyda chwedeg o bobl rhwng 12 a 60 mlwydd oed o 20 o wledydd yn cymryd rhan mewn cydweithio creadigol gyffrous.
Mae’r wythnos wedi gweld cyfranogwyr o Tsiena i Gameroon, Casnewydd i Nepal, yn gwneud ffrindiau ac yn creu theatr, perfformwyr ardderchog fel Benjamin Zephaniah a Shappi Khorsandi yn camu i’r llwyfan, a brwdfrydedd heintus gan bawb sy’n cymryd rhan.
Mae’r wythnos wedi cynnwys gweithdai gan rhai o brif ymarferwyr celfyddydol Cymru megis Earthfall, Living Pictures a Creative Voice. Mae pobl o bob cwr o’r byd wedi cymryd rhan ac mae’r wythnos wedi rhoi’r cyfle iddynt fynegi eu storiâu personol a’u diwylliannau cyfunol. Ar nos Lun camodd Jody Kamali i mewn ar y funud olaf i berfformio set gomedi hynod ddoniol.
Ar nos Fawrth roedd yna drafodaeth ddiddorol am rôl ymarferwyr yn gweithio mewn sefyllfaoedd o argyfwng gyda Hua Dan (Tseina), Ice and Fire (DU) a Theatre versus Oppression. Cododd nifer o gwestiynau yngl?n â sut mae artistiaid ac ymofynwyr noddfa yn gallu gweithio gyda’i gilydd mewn ffyrdd dilys a pharhaus a’r gobaith yw bod cysylltiadau defnyddiol yn codi allan o’r drafodaeth.
Mae digwyddiadau eraill yr wythnos hon yn cynnwys Benjamin Zephaniah, Little Leap Forward, Shappi Khorsandi, Creating a Storm ynghyd a nifer mwy o weithdai creadigol.
Mae Wythnos Ffoaduriaid yn rhan o raglen gelfyddydol ac addysgol a gynhelir ledled y DU, ac mae’n dathlu cyfraniad ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddiwylliant y DU.
Mae’r rhaglen yma o ddigwyddiadau yn rhan o brosiect parhaol Sherman Cymru, Ymgysylltu a’r Gymuned, sydd yn rhoi’r cyfle i ymofynwyr noddfa, ffoaduriaid a phobl leol i weithio yn greadigol gyda’i gilydd.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Llinos Mai/Fleur Missaghian





