Ysgol Gynradd Langstone Yn Codi Arian Ar Gyfer Ymgyrch Sherman Cymru
26 Maw 2010
Dros y 18 mis nesaf bydd gwaith adnewyddu sylweddol, fydd yn costio £4.6 miliwn, yn cael ei wneud ar adeilad Sherman Cymru, yr unig adeilad yn Ne Cymru sy’n cynhyrchu theatr. Bydd y lleoliad yn cael ei drawsffurfio, ac yn datblygu’n un o adeiladau amlycaf ardal Cathays o Gaerdydd.

Ysgol Gynradd Langstone
Ar ddydd Gwener 26 o Fawrth 2010 cymerodd disgyblion a staff Ysgol Gynradd Langstone, Casnewydd ran yn Sialens Sherman Cymru i Ysgolion, drwy fynd i’r ysgol am ddiwrnod heb wisgo eu gwisg ysgol ffurfiol.
Mae miloedd o blant yn talu ymweliad arbennig â Sherman Cymru bob blwyddyn pan fyddant yn dod ar drip haeddianol i weld un o gynyrchiadau Nadolig y cwmni. Mae Ysgol Gynradd Langstone wedi bod yn dod â phlant i Sherman Cymru am o leiaf 14 o flynyddoedd, gan roi profiad theatrig unigryw i blant mor ifanc â phedair blwydd oed.
Dywedodd Beverley Cole, Pennaeth Ysgol Gynradd Langstone:
“’Rydym yn falch o gynnal ‘diwrnod di-iwnifform’ er mwyn cefnogi ailddatblygu’r theatr newydd. Mae disgyblion Langstone wedi mwynhau’r profiad o weld theatr fyw dros nifer o flynyddoedd, ac yn falch o wybod bydd y cyfle yma’n parhau.”
Mae Sherman Cymru’n annog ysgolion lleol sydd wedi bod yn dod i’r theatr yn rheolaidd, i helpu i godi arian drwy’r Sialens i Ysgolion. Gall ysgolion drefnu eu digwyddiad codi arian eu hunain, a bydd yr holl arian sy’n cael ei godi yn mynd tuag at ailddatblygu adeilad y theatr. Fel rhan o’r Sialens i Ysgolion dysgodd Ysgol Gynradd Langstone am ddiwyg newydd y theatr, ac am bwysigrwydd codi arian. Cawsant hefyd ymweliad, masgot codi arian Sherman Cymru, sef y Campyrfan Binc sydd wedi bod yn teithio o amgylch De Cymru yn codi ymwybyddiaeth am yr ymgyrch ailddatblygu.
Dywedodd un o ddisgyblion Langstone, “Allai ddim aros i ddod 'nôl a gweld y Sherman newydd. Bydd yn edrych yn wych.”
Mae angen eich cefnogaeth o hyd ar Sherman Cymru i wireddu’r prosiect yma. Er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth yngl?n â sut y gallwch gefnogi ailddatblygu Sherman Cymru, y Sialens i Ysgolion, neu i wneud rhodd uniongyrchol, cysylltwch â Suzanne Carter ar 029 2064 6970 neu gyrrwch e-bost at suzanne@shermancymru.co.uk






