Q & A Gyda Owen Martell
Pam wyt ti wedi dewis sgwennu’n greadigol fel modd o wneud bywoliaeth?
Wnes i erioed ddewis ysgrifennu fel modd o ennill bywoliaeth a thaswn i
yn ystyried ffyrdd o wneud bywoliaeth, mae'n siŵr y byddwn i'n dewis
gyrfa sydd yn talu mwy am lai o waith. Dw i'n ystyried, mewn ffordd
bersonol, taw fy ngwaith yw ysgrifennu ond mae yna wahaniaeth rhwng
hynny a gwneud bywoliaeth drwy ysgrifennu neu ysgrifennu i ennill
bywoliaeth. Hynny yw, dw i'n gwneud pethau eraill hefyd i ennill
bywoliaeth ac yn ceisio gwneud hynny mewn modd fydd yn galluogi i mi
hefyd gael amser (amser gwerth chweil, hynny yw) i sgrifennu.
Beth oedd y gwaith cyntaf iti gael dy dalu am ei sgwennu, a sut ddaeth y
cyfle hwnnw i dy ran?
Y gwaith comisiwn cyntaf i mi'i gwblhau oedd Ceisio'i Bywyd Hi,
cyfieithiad Cymraeg o Attempts on her life gan Martin Crimp. Cyfarwyddwr
y ddrama, ac un o gyfarwyddwyr Sherman Cymru, Arwel Gruffydd, ofynnodd i
mi wneud y gwaith a hynny, am wn i, ar sail y llyfrau a gyhoeddais cyn
hynny. Ces i fy nhalu am y llyfrau hynny ond nid comisiynau oedden nhw
fel y cyfryw.
Beth oedd dy ymateb cyntaf pan ofynnwyd iti gyfieithu Attempts On Her
Life ar gyfer Sherman Cymru?
Roeddwn i'n falch iawn bod Arwel wedi gofyn i mi wneud a rhyw fymryn yn
betrus hefyd. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â'r ddrama ac ar ôl ei darllen
hi, fe wnes i bendilio am ychydig. Doeddwn i ddim yn siŵr fy mod i'n
“hoffi”'r ddrama, yn y ffordd dw i'n hoffi neu yn caru gweithiau eraill,
ond hyd yn oed wrth ei darllen hi'n frysiog y tro cyntaf, fe'i cefais
hi'n uffernol o ddiddorol ac roeddwn i'n sicr y byddai ceisio'i
chyfieithu hi hefyd yn uffernol o ddiddorol ac yn brofiad gwerthfawr.
Beth oedd yr her fwyaf wrth iti fynd ati?
Roedd yna dipyn o grafu pen ynglÅ·n â phethau fel cywair a ieithwedd a
chyd-destun gwahanol olygfeydd yn y ddrama. Yr her fwyaf, mae'n siŵr,
oedd ceisio sicrhau nad oedd rhai golygfeydd sydd, yn y Saesneg, yn
arddel ieithwedd “aruchel-ond-cyfarwydd” yn boddi mewn llif o dermau
Cymraeg fyddai'n fwy neu lai estron i'r “siaradwr cyffredin”, fel petai.
A oeddet ti’n rhan o gwbl o’r broses ymarfer? Os felly, sut brofiad oedd
hynny?
Ces i gyfle i weld wythnos gyntaf yr ymarferion a mwynhau mas draw. Wnes
i ddim amharu gormod, gobeithio, ar lif y sesiynau – dim ond trafod
agweddau ar y testun bob hyn a hyn er mwyn i'r actorion gael gwyntyllu
rhai problemau neu gwestiynau. Roedd rhai o'r trafodaethau hynny'n
destunol, rhai eraill yn fwy athronyddol (mewn dyfynodau). Roedd hi'n
ddiddorol iawn gweld sut yr oedd y gwahanol actorion yn ymateb i'r
testun – weithiau'n ceisio'i lyncu a'i wneud yn rhan o'u profiad eu
hunain, droeon eraill yn cadw'r syniad ar lefel mwy haniaethol, fel
petai i ymaflyd ag ef mewn gofod arall.
Y wefr fwyaf oedd gweld y modd y gallai testun oedd wedi ymddangos i mi
wrth ei gyfieithu yn destun llenyddol iawn ddod yn fyw yng ngenau ac yn
symudiadau'r actorion. Roedd rhai golygfeydd yn benodol, hyd y gwelwn i,
wedi'u hysgrifennu mewn modd oedd yn fwriadol wrth-ddramatig; roedd hi'n
ogleisiol wedyn gweld y golygfeydd hynny, wrth iddyn nhw gael eu
chwarae, yn tynnu'r dramatig amdanyn nhw, fel petai.
Pa gynghorion fyddet ti'n eu rhoi i unrhyw un sydd am fynd ati i
gyfieithu drama?
Y tu hwnt i'r gofynion amlwg fel gafael iawn ar y ddwy iaith, a
pharodrwydd i ymwneud yn agos â'r gwaith – o safbwynt testunol ac o
safbwynt ymarferol – byddwn i'n dweud nad oes angen ond diddordeb byw yn
y testun a'r gallu i gredu yn y testun hwnnw. Fel soniais i uchod,
efallai nad oes angen “caru”'r gwaith dan sylw ag angerdd pur ond mae
angen ei barchu a bod mor agored â phosib i'r cyfan oll y gallai fod.
Wyt ti wedi cyfieithu dy waith gwreiddiol dy hun? Ac os felly, a wnest
ti aros yn driw i’r gwreiddiol, ynteu a gefaist ti dy demtio i ‘wella’ arno?
Dw i wedi cyfieithu ychydig o fy ngwaith fy hun, do, ac wedi manteisio
ar y cyfle i ychwanegu neu dynnu geiriau, llinellau neu baragraffau ac
wedi defnyddio'r cyfieithiad hefyd i oleuo syniadau ac ati yn y gwaith
“gwreiddiol”. Yn fy mhrofiad i, fodd bynnag, mae'n llai boddhaol sôn am
waith “gwreiddiol” a “chyfieithiad” yn y cyd-destun hwn. Er bod syniadau
yn ddibynnol i raddau helaeth iawn ar eiriau ac felly ar ieithoedd
penodol, dw i wedi cael y teimlad hefyd bod y peth yn gallu bod fel
teithio yn Ewrop cyn dyfodiad yr Ewro: yn Ffrainc roeddech chi'n
defnyddio francs i brynu camembert, lira yn yr Eidal i brynu gorgonzola,
a phunnoedd, gwaetha'r modd, yng Nghymru i brynu Caerffili - ond mae
daioni cawsaidd yn trosgynnu'r arian a ddefnyddir i dalu amdano.
Sut mae’r profiad o wylio dy waith ar y llwyfan yn wahanol i gydio mewn
cyfrol o dy waith yn boeth o’r wasg?
Fe fydda i'n gwybod yr ateb i'r cwestiwn hwnnw ddiwedd yr wythnos hon!
A wyt ti erioed wedi sgwennu drama wreiddiol? Os nad felly, pam?
Nac ydw. Mae'n debyg bod cyffroadau ffurfiau eraill wedi bod yn fwy
amlwg i mi tan nawr – a dw i'n amau y bydd y cyffroadau hynny'n parhau i
fod yn amlwg i mi mewn rhyw ffordd neu gilydd yn y blynyddoedd i ddod.
Ond roedd gweithio ar y cynhyrchiad hwn yn agoriad llygad. Cyn hynny,
roeddwn i wastad wedi meddwl bod ysgrifennu ar gyfer y theatr yn fwy o
ddirgelwch rhywsut na cheisio ysgrifennu nofel, er enghraifft. Dw i'n
amau erbyn hyn bod yna gymaint – neu gyn lleied - o ffyrdd o ysgrifennu
drama ag sydd yna o ysgrifennu nofel.
A ydi’r profiad o weithio efo Sherman Cymru ar y cynhyrchiad hwn wedi
rhoi blas iti ar gyfrwng drama a’r theatr?
Ydy, yn sicr iawn. Y modd nis gwn eto ond, yn y dyfodol...
Pe na fyddet ti’n awdur, pa swydd arall allet ti neu y byddet ti’n
dymuno ei wneud?
Fe fyddwn i wedi hoffi bod yn gerddor – ond eto, falle nad yw honno'n
swydd yn ystyr arferol y gair chwaith. Byddwn i wedi mwynhau bod yn
gysodydd, dw i'n meddwl, yn yr oes anddigidol. Neu yn saer coed neu'n
fframiwr. Dw i'n mwynhau fframio pethau.





