Sherman Cymru

 

Partneriaethau Corfforaethol

Mae mynd i bartneriaeth â Sherman Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd i sefydliadau corfforaethol, gan gynnwys datblygu creadigol a marchnata, prosiectau i staff gael chwarae rhan ynddynt, a rhwydweithio gyda chleientiaid.  Mae pob partneriaeth wedi ei theilwra’n arbennig er mwyn cydweddu â’r buddion a’r blaenoriaethau mae Sherman Cymru a’r busnes unigol wedi ymrwymo iddynt.

Mae Sherman Cymru yn cynnig:

  • Cyfleoedd i rwydweithio, marchnata a hyrwyddo creadigol - gall hyn arwain at wella’r berthynas â chwsmeriaid a buddsoddwyr
  • Cyfle i gymdeithasu â chleientiaid busnes fel gwestai’r noddwyr corfforaethol mewn gweithgareddau arbennig a chynyrchiadau
  • Cyfleoedd i ddatblygu staff a phrosiectau Hyfforddi, sydd â’u sylfaen yn y Celfyddydau, gyda staff artistig profiadol ac ysbrydoledig Sherman Cymru
  • Cyfleoedd i staff gymryd rhan yn y gwahanol brosiectau mae’r cwmni’n eu cynnal
  • Llwyfan creadigol ar gyfer hybu’r cwmni drwy Gymru benbaladr a thu hwnt, gyda theithiau yn yr iaith Gymraeg a’r Saesneg
  • Cyfleoedd i’r busnes gael ei gysylltu â Sherman Cymru, sydd wedi ymrwymo i  feithrin talent, i greu cynyrchiadau safonol ac arbennig, a chychwyn prosiectau yn y gymuned leol