Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Tanzcompagnie Rubato, Berlin/Taliesin Arts Centre

Perfformwyr a Choreograffwyr - Deiter Baumann, Marc Rees a Guillermo Weickert-Molina

3 Men Running

Dyddiadau:

27 Ionawr, 8.00pm

Prisiau:

£11.74,£9.79
Dan 19 £7.83 (Cyfradd VAT newydd 15% yn gymwysedig)



Gwybodaeth ychwanegol:

Trafodaeth Wedi-Sioe


Mae tri dawnsiwr o dri diwylliant gwahanol yn cael eu huno gan un profiad grymus sy’n gyffredin i’r tri ohonynt: bu farw tadau’r tri yn ddiweddar.

Mae’r gwrthrychau go iawn oedd yn perthyn i’w tadau’n rhoi ystyr penodol i bob stori, ac yn gwarchod teimladau fel angor yng nghanol cerrynt bywyd. Gan fod tadau’r tri’n arddwyr brwd, mae’r tri dawnsiwr wedi creu gofod o fewn gofod gan ddefnyddio elfennau syml tywarch artiffisial. 

Mae’r coreograffi, y gwrthrychau a’r darnau o fideo yn creu tirwedd emosiynol fydd yn mynd a’r gynulleidfa ar daith at eu hatgofion eu hunain.

No information available
No information available
No information available