DV8 Physical Theatre
Gwaith a grewyd a chyfarwyddwyd gan Lloyd Newson
DV8 - To Be Straight With You
Dyddiadau:
24 - 25 Ebrill 2008 7.30pm
Prisiau:
£16, £14. Dan 19 £10
Gwybodaeth ychwanegol:
Oedrannau 16+
Trafodaeth Cyn-Sioe 25 Ebrill 6.15pm
Nodwch os gwelwch yn dda na fydd pobl sy'n cyrraedd yn hwyr yn medru gweld y perfformiad
‘Mae erlid pobl oherwydd eu gogwydd rhywiol yr un mor anghyfiawn â’r drosedd honno yn erbyn dynoliaeth, apartheid. Rhaid i bawb gael cyfle i garu gydag anrhydedd.’ Yr Archesgob Desmond Tutu
Dyma Lloyd Newson, Cyfarwyddwr Artistig DV8, yn arwain cast aml-ethnig mewn archwiliad barddonol ond gonest o oddefgarwch, anoddefgarwch, crefydd a rhywioldeb. Mae sioe newydd DV8 yn seiliedig ar gannoedd o oriau o gyfweliadau clywedol, a gasglwyd ledled Prydain gan bobl a effeithwyd yn uniongyrchol gan y materion hyn.
Ffurfiwyd Theatr Gorfforol DV8 ym 1986, ac ugain mlynedd yn ddiweddarach mae’n dal i wrthod cael ei diffinio. Wrth gyfuno dawns, testun, dogfen, animeiddio a ffilm, mae’r cwmni wedi cynhyrchu 15 darn o theatr sydd wedi teithio’n rhyngwladol, a 4 ffilm sydd wedi ennill gwobrau yn cynnwys 3 Prix Italia, Emmy Rhyngwladol a Rose D ‘or.





