Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Matthew Bourne & New Adventures

Matthew Bourne's Early Adventures

Matthew Bourne New Adventures

Dyddiadau:

5 - 6 Mehefin
Matinee: 6 Mehefin

Prisiau:

£15 - £25
Matinee: £12 -£20


Matthew Bourne's Early Adventures

Fel rhan o ddathliadau 25 mlwydd oed New Adventures dyma hoff goreograffydd Prydain (sy’n fwyaf adnabyddus
am ei addasiad arbennig o Swan Lake gyda’i gast o ddynion) yn cyflwyno’r tri darn o waith fu’n gyfrifol am lansio’i yrfa.

Spitfire - ‘An advertisement divertissement’ – oedd llwyddiant cyntaf Matthew Bourne yn 1988. Mae’n gosod un o ddarnau bale enwocaf y 19eg Ganrif yng nghanol byd hysbysebu dillad isad dynion – doniol tu hwnt!

Yn sgil Town and Country enwebwyd Bourne a’i gwmni am y tro cyntaf yn 1991 am wobr Olivier. Mae’r darn hwn yn adnabyddus am grisialu dull neilltuol Bourne o weithio - ffraeth, eironig, diffuant, gwefreiddiol.

Ysbrydolwyd The Infernal Galop gan eiconau Ffrengig y tridegau a’r pedwardegau. Portreadir Ffrainc drwy ddychymyg sidêt y Sais, ac mae’n cynnwys yr holl ystrydebau traddodiadol, gan orffen, wrth gwrs, gyda Can-Can Offenbach!

 

Matthew Bourne's
Early Adventures: Theatr 1

Dydd Mawrth 5 Mehefin 7.30yh
Dydd Mercher 6 Mehefin 2.30yh | 7.30yh
No information available