Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Bounce

Bounce : Insane in the Brain

Insane in the Brain

Dyddiadau:

Maw 13 - Mer 14 Hydref 7.30pm

Prisiau:

£16, £14, Dan 19 £10


Mae Bounce wedi chwistrellu dos go dda o egni hip hop i stori glasurol One Flew Over the Cuckoo’s Nest. Mae’r cwmni cyffrous hwn yn adnabyddus am greu theatr stryd-ddawns, gan fwynhau llwyddiannau mawr yn Theatr y Peacock a’r Roundhouse.

Yng nghyfyngderau’r ysbyty meddwl, daw breg-ddawns yn fodd o gyfleu rhyddid ac yn ffordd o wrthryfela yn erbyn dwrn dur Nyrs Ratched - sy’n digwydd bod yn ffan o ddawnsio bale...

Mae trac sain gwych i’r sioe sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Missy Elliot, Dizzie Rascal, Gotan Project, David Holmes a Cypress Hill.

Mae set ddyfeisgar (gan gynnwys breg-ddawnswyr sy’n neidio-bynji), ffilm a choreograffi’n gymysg oll i gyd mewn sioe sy’n symud yn gyflym, sioe sydd weithiau’n ddoniol, weithiau’n deimladwy, ond sy’n llawn dop o symudiadau dawns ffrwydrol drwyddi draw!

Yn cynnwys themau heriol a pheth trais 

Rhannwch ar Facebook

Gwefan Bounce: Insane in the Brain (Saesneg)

No information available
No information available
No information available