Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Dance Touring Partnership

Tanja Liedtke's Twelfth Floor

Dyddiadau:

Dydd Mawrth 24 Mawrth, 8.00pm

Prisiau:

£14, £12
Dan 19: £8



Gwybodaeth ychwanegol:

Trafodaeth Wedi-Sioe
Yn cynnwys golygfeydd sydd yn anaddas i blant


‘This brilliantly incisive and perceptive dance work is disturbing, laugh-aloud funny and tragic…(Tanja Liedtke) has created an extraordinary dance work for our times.’ Sydney Morning Herald

Yn y cyflwyniad corfforol tywyll ond doniol hwn, mae cymeriadau’n ymddangos ac yn ymddatod.  Mae’n archwilio sut mae pobl yn adweithio â’i gilydd pan gânt eu caethiwo mewn sefydliad dirgel a rhyfedd.
Mae’r pum perfformiwr arbennig yn cyflwyno’r newidiadau sy’n digwydd yn eu perthynas wrth i rym, gobaith ac anobaith gyffwrdd â hwynt. Mae’r cyfuniad cyfoethog o ddawns, theatr, symud, fideo a thrac sain llawn awyrgylch DJ Tr!p yn sicrhau gwaith soffistigedig a gwreiddiol, sy’n symud yn esmwyth o eiliadau tyner, telynegol i adegau bygythiol, tywyll ac yna i’r corfforol ffrwydrol. 

Gan gynnwys perfformiwr o Theatr Ddawns Awstralia a Theatr Gorfforol DV8, yn ogystal â dawns glasurol, theatr a syrcas, ennillodd y gwaith newydd, grymus hwn wobr am y Coreograffi Mwyaf Arbennig a’r Ddawnswraig Mwyaf Arbennig yng Ngwobrau Dawns Awstralia 2006.

Cefnogwyd y daith gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, gyda chymorth Llywodraeth Awstralia drwy Gyngor Awstralia, corff ariannu a chynghori’r celfyddydau yn Awstralia, Llywodraeth De Awstralia drwy Arts SA, Canolfan Gŵyl Adelaide, a Chanolfan Goreograffi Awstralia.

Gwefan y Daith (yn Saesneg)

No information available
No information available
No information available