Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Coreograffi Sylvain Emard
Dawnswyr: Karissa Barry, Genevieve Gauvreau, Erika-Leigh Stirton, Catherine Viau, Megan Walbaum
Cerddoriaeth Gwreiddiol Michel F. Cote
Cynghorydd Artistig a Meistres Ymarfer Ginelle Chagnon
Fideo Effe
Goleuo Etienne Boucher
Cynllun Set Richard Lacroix
Gwisgoedd Francois Saint-Aubin
Gwallt a Cholur Angelo Barsetti

Wave

Dyddiadau:

Dydd Gwener 13 Mawrth, 8.00pm

Prisiau:

£13.70, £11.74
Dan 19: £7.83 (Cyfradd VAT newydd 15% yn gymwysedig)



Wave – pennod olaf yn y cylch Climatology of Bodies gan Sylvain Émard. Yn y drioleg lwyddiannus hon, mae Sylvain Émard yn defnyddio’r hinsawdd fel trosiad ar gyfer y dylanwadau allanol sy’n effeithio ar ein bywydau.

Mae Wave yn archwilio ein gallu cynhenid a’n hangen fel unigolion i ymdoddi, i fod yn rhan o amgylchedd aml-ddimensiwn sy’n cynyddu’n wastadol. Pan mae’r don anferth hon, a berfformir gan bump o ddawnswragedd arbennig iawn, yn ein taro mae’n datgelu mai dawns yw cerddoriaeth goeth y corff. Egniol, rhyfeddol, a thu hwnt o deimladwy.

Daeth Sylvain Émard i amlygrwydd am y tro cyntaf fel dawnsiwr wrth weithio â choreograffwyr enwog fel Jean-Pierre Perreault, Jo Lechay a Louise Bédard, cyn iddo ffurfio Sylvain Émard Danse, ym 1987. Mae ei repertoire o fwy nag ugain o ddarnau arbennig yn dangos dyfeisiwr creadigol sy’n defnyddio’i dalent i’r eithaf. Dyma artist sydd wedi ennyn edmygedd cynulleidfaoedd o bell ac agos.

Mae Sylvain Émard Danse yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth: Canada Arts Council, Conseil des arts et des lettres du Québec, Montreal Arts Council.

No information available
No information available
No information available