Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Sherman Cymru

Ail-ddatblygiad Sherman Cymru

externalcy

Dyddiadau ac amserau:

01 Mawrth 2010 - 01 Medi 2011



Ar ôl i sioe Nadolig eleni,A Christmas Carol, ddod i ben, bydd drysau Sherman Cymru yn cau ar gyfer y gwaith ailddatblygu angenrheidiol a hir-ddisgwyliedig.

Bydd y cynllun adnewyddu yn gwella eich profiad chi, a miloedd o ymwelwyr eraill pan fyddwch yn mynychu’r theatr yn y dyfodol, gan y bydd yr ardal blaen tŷ ac wyneb y theatr yn cael eu hatgyweirio’n gyfan gwbl ac yn cael diwyg newydd sbon. Bydd seddi a systemau gwresogi ac awyru newydd yn cael eu gosod, a bydd y mynediad yn cael ei wella i bob rhan o’r adeilad.

‘Rydym wedi derbyn grant Cyfalaf gan y Loteri o £3.9 miliwn, ond mae gennym £1.5 miliwn yn weddill i’w godi. Ymunwch â’n noddwyr, yr actorion Sian Phillips a Matthew Rhys yn ein hapêl i fabwysiadu sedd, Eisteddwch Gyda Ni. Am £10 yn unig y mis efallai byddwch yn eistedd gyda nhw!

Edrychwch ar y tudalennau ‘Cefnogwch Ni’ am wybodaeth bellach ynglŷn â beth allwch chi wneud i helpu, ac i ddarganfod rhagor am ein cynlluniau ailddatblygu.

A pheidiwch â phoeni, bydd y Sherman yn parhau i gynhyrchu theatr yn ystod y cyfnod ailddatblygu, gan gyflwyno cynyrchiadau mewn amrywiol leoliadau ledled Caerdydd, yn ogystal â theithio drwy Gymru a’r DU - cofiwch edrych ar y wefan hon o dro i dro am ragor o fanylion.

Argraffiadau'r Pensaer - Capita Architecture

  ACW

Welsh Assembly Government

lotterycy3