Sherman Cymru
Ceisio'i Bywyd Hi
Dyddiadau:
1 - 2 Hydref 8.00pm
Trafodaeth Wedi-Sioe - 2 Hydref
Prisiau:
£14/£12
Dan 19 £8
Daw criw amryfal o gymeriadau ynghyd i greu stori....i geisio gwraig ddychmygol; gwraig fydd yn eu diffinio a’u herio, eu caru a’u cythruddo. Ceir o ganlyniad chwedl fodern – comedi drasig ar gyfer ein hoes. O drachwant
materol i hunanaberth, o ryw anniogel i ffwndamentaliaeth grefyddol, ceir yma ddarlun gogleisiol o fyd yn llawn ofn,
dieithrwch ac alltudiaeth a phortread ingol o obsesiynau cyfoes.
Ers ei chyfl wyno gyntaf yn 1997, mae’r ddrama ysgytwol hon wedi’i chyfieithu i ragor nag ugain o ieithoedd. Mewn
cynhyrchiad aml-gyfrwng, beiddgar, gyda cherddoriaeth fyw gan Acid Casuals, daw Owen Martell (enillydd Llyfr y Flwyddyn 2001) â’r clasur cyfoes hwn i gynulleidfa Gymraeg. O wneud hynny, mae’n ein gorfodi i ystyried
cyd-destun rhyngwladol ein diwylliant ac yn ein llusgo o gynefin cyfarwydd gwleidyddiaeth iaith, y meysydd chwarae ac eisteddfod i fyd gerwin pornograffi, puro ethnig a therfysgaeth ryngwladol.





