Sherman Cymru
Cityscape
Dyddiadau:
Maw 8 - Gwe 11 Mehefin 7.15yh
Sad 12 Mehefin 2.45yh & 7.15yh
Prisiau:
£12/£10 (Dwy Ddrama)
£18/£16 (Pedair Drama)
Cityscape
Pedair drama, a ysbrydolwyd gan strydoedd a meindyrau Caerdydd, yn archwilio dilema, twyll ac ewfforia. Cafodd pedwar o awduron gyfle i brofi bywyd rhai o drigolion y ddinas, bywyd nad oeddent erioed wedi ei weld o’r blaen - gan gynnwys byd y torrwr beddau, glanhawr mewn gwesty a gyrrwr trên. Dyma eu hymateb i’r cipolwg a gawsant ar fywyd cyfoes y brifddinas.
Maw 8 Meh 7.15yh Deluge & Patroiophobia
Mer 9 Meh 7.15yh No Vacancies & Station
Iau 10 Meh 7.15yh Deluge & Patroiophobia
Gwe 11 Meh 7.15yh No Vacancies & Station
Sad 12 Meh 2.45yh Deluge & Patroiophobia
Sad 12 Meh 7.15yh No Vacancies & Station
Tocynnau ar gael o Swyddfa Docynnau Chapter ar 029 2030 4400
Y Man Cyfarfod
Gwesty’r Big Sleep, Teras Bute. Bydd pob grŵp yn gadael yn brydlon ar yr amseroedd uchod – cofiwch roi digon o amser i gasglu eich tocynnau.
Cofiwch mai perfformiadau promenâd yw’r rhain (gan gynnwys rhai tu allan) ac y dylech wisgo esgidiau a dillad addas. Bydd pob pâr o ddramâu’n para tua 2 awr. Gofynnir i aelodau o’r gynulleidfa beidio a defnyddio’r cyfleusterau parcio yng Ngwesty’r Big Sleep. Yn anffodus nid yw’n bosibl i gadeiriau olwyn gael mynediad i bob rhan o’r perfformiad. Os oes gennych anghenion mynediad arbennig cysylltwch â Marina Newth marina.newth@shermancymru.co.uk 029 2064 6900
No Vacancies
Gan Tracy Harris
Cyfarwyddwr - Adele Thomas
Dyn. Dynes. Morwyn. Wedi eu clymu gyda’i gilydd gan gyfrinachau un ystafell.
Mae stori Tracy Harris am ryw a voyeuriaeth yn hanesyn llwm llawn obsesiwn ac euogrwydd.
Patroiophobia
Gan Bethan Marlow
Cyfarwyddwr -Róisín McBrinn
Mae’n ddigon anodd bod yn rhiant heb i ysbrydion y gorffennol eich dilyn i bobman. Mae Bethan Marlow yn mapio’r problemau ymarferol a’r maglau emosiynol sy’n rhan o fywyd y rhiant cyfoes.
Station
Gan Emily Steel
Cyfarwyddwr -Róisín McBrinn
Mae Frank yn byw wrth amserlen drenau. Ond tydi o ddim yn mynd i’w waith bellach. Mae Hayley angen dal tren i ddianc. Ond a all hi ddweud wrth ei thad? Mae Emily Steel yn archwilio cymhelliad a chwlwm car wrth ymdopi’n dawel ag anobaith ac unigedd
Deluge
Gan Kit Lambert
Cyfarwyddwr - Adele Thomas
O dŵr uchel o fflatiau mae’r golygfeydd gorau o Gaerdydd i’w gweld, ond mae’r adeilad yn dirywio. Pa mor anodd yw hi i berswadio’r trigolion olaf i adael? Yn y darn telynegol hwn mae Kit Lambert yn archwilio perchnogaeth, dycnwch a phen masnach trigolion y ddinas.
gyda chymorth caredig






