Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Royal Shakespeare Company

Days of Significance

Days 3

Dyddiadau:

Dydd Mawrth 17 - Dydd Sadwrn 21 Tachwedd, 7.30pm
Matinees: Dydd Mercher 18 Tachwedd 1.30pm & Dydd Sadwrn 21 Tachwedd 2.00pm

Prisiau:

£16/£14
Dan 19 £10
Tocynnau £5 i oedrannau 16 ? 25 (30 tocyn ar gael am bob perfformiad)




Cyn iddynt fynd i wasanaethu’n weithredol yn y fyddin, mae dau filwr ifanc yn gwneud y gorau o un noson feddw gyda’u ffrindiau mewn tref farchnad yn Lloegr. Cyn pen dim mae’r holl orchest ac ymffrost yn chwilfriw wrth iddynt gyflawni eu tymor dyletswydd, ac mae’r bywyd bob dydd gartref mor ddieithr iddynt â’r anialwch maent newydd ei adael.

Yn dilyn rhediad llwyddiannus yn Llundain yn 2008, mae’r RSC yn falch o deithio drama amserol, rymus Roy Williams sy’n edrych ar ganlyniadau rhyfel Irac - rhyfel sydd â’i heffaith yn ymestyn llawer iawn pellach na ffiniau maes y gad. Roy Williams yw un o brif ddramodwyr y DU, ac mae ei waith diweddaraf yn cynnwys Angel Face a Sing Yer Heart Out For The Lads (National Theatre), Fallout (Royal Court) a Clubland. Enillodd Wobr yr Evening Standard am y Dramodydd Mwyaf Addawol yn 2001 am Clubland.

Maria Aberg sy’n cyfarwyddo Days of Significance. Mae hi hefyd wedi bod yn gyfrifol am gyfarwyddo State of Emergency yn Theatr y Gate, Crime and Punishment i’r National Theatre ac Alaska i’r Royal Court. Hi hefyd oedd Cyfarwyddwr Cyswllt yr RSC ar The Winter's Tale a Pericles yng Ngŵyl ‘The Complete Works’.

Mae iaith gref, trais a rhai golygfeydd o natur rywiol yn y cynhyrchiad hwn.

Rhannwch ar Facebook

No information available
No information available
No information available