Sherman Cymru | Dan y Gwely
Gadael yr Ugeinfed Ganrif
Dyddiadau ac amserau:
02 - 04 Awst 8.00yh
Prisiau:
£10/£8 Dan 19: £5
Institwt Glyn Ebwy - Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010
Institiwt Glyn Ebwy (EVI) - Cyfarwyddiadau
"Fy enw i ydi Gareth David Potter, a wi’n obsessed gyda cherddoriaeth bop. Ti’n gwybod, y stwff tshêp, grymus ’na sy’n neud i dy galon gyflymu a dy ben ffrwydro. Y stwff ’na na ddylet ti, o dan unrhyw amgylchiadau, gael unrhyw beth i wneud ag e os wyt ti dros dy chwarter canrif…"
Yn nyddiau llwyd refferendwm ’79, roedd Cymru wedi colli’i phlwc a’r sin roc Gymraeg yn nofio mewn nostaljia. Ond roedd ymweliad aflafar y Sex Pistols â Chaerffili wedi cyffroi dychymyg un bachgen ysgol. Dyma ffurfio band...a fu pethau wedyn byth yr un peth.
Anturiaethau hunangofiannol un dyn dros ddau ddegawd olaf yr Ugeinfed Ganrif, a ddaeth i benllanw gyda Cŵl Cymru a Senedd ym Mae Caerdydd, sy’n plethu delweddau, cerddoriaeth a stori wir. Yn ddarlun egnïol ac o’r galon o gyfnod yn ein hanes pan fynnodd un genhedlaeth aflonydd bod y byd yn dod i Gymru ac a aeth â Chymru i’r byd.
Prynwch Docynnau
029 2064 6900

