Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Shared Experience
Ysgrifennwyr a Chyfarwyddwr Polly Teale
Cynllunydd Angela Simpson
Cynllunydd Goleuo Colin Grenfell
Cyfarwyddwr Symudiad Liz Ranken
Cerddoriaeth Peter Salem


Mine

Dyddiadau:

30 Hydref - 1 Tachwedd, 7.30pm

Prisiau:

£16, £14
Dan 19: £10


"Impressively ethereal...superb" Evening Standard

Mae ganddynt gartref hardd a bywyd ffantastig.  A dweud y gwir, mae ganddynt bopeth!  Heblaw am yr un peth maen nhw eisiau’n fwy na dim.  Babi.

Pan maent yn penderfynu mabwysiadu o’r diwedd, yr unig beth sydd ar eu meddyliau yw gymaint maen nhw’n ysu am blentyn.  Ond daw mam ofidus y babi i’w haflonyddu, ac mae eu bywydau’n ymgordeddu â’i gilydd mewn ffordd na allai neb ei ddychmygu…

Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Mine gan Polly Teale, cyd Gyfarwyddwr Artistig Shared Experience. Diolch i’w harddull weledol rymus a’i dychymyg, enillodd wobr yr Evening Standard am y Cyfarwyddwr Gorau, am ei drama, After Mrs Rochester.  Enillodd y ddrama hon hefyd Wobr Time Out am y Cynhyrchiad Gorau yn y West End.

Mae Shared Experience wedi swyno cynulleidfaoedd ledled y byd gyda’u cynyrchiadau, gan uno delweddau gweledol trawiadol gyda thestun grymus.  Mae eu gwaith diweddaraf yn cynnwys Jane Eyre, War and Peace, ac A Passage to India.

Gwefan Shared Experience - Podcast gyda Polly Teale a'r cast

Shared Experience

No information available
No information available
No information available