Sherman Cymru
Oedipus | Antigone
Dyddiadau:
7.30yh (Matinee 27 Chwefror 2pm)
*BOB PERFFORMIAD WEDI GWERTHU ALLAN*
Prisiau:
£17, £5
Ar gyfer ein perfformiad olaf un cyn i’r Sherman gau ar gyfer y gwaith adnewyddu, bydd dros 100 o’n hieuenctid yn meddiannu’r adeilad gwag! Byddwn yn ailadrodd hanes Oedipus/Antigone, mewn modd gwbl feiddgar, gan ddefnyddio sgript a gomisiynwyd yn arbennig gan D J Britton. Bydd y perfformiad yn digwydd yn yr ystafelloedd newid, mewn coridorau gwag, yn y cyntedd diffaith, yn y ddau awditoriwm ac ar lwyfannau’r theatr. Byddwch chi’r gynulleidfa’n mynd ar daith anghyffredin ac unigryw i galon isfyd mytholegol.
Cefnogwyd gan

Er ein bod yn ymgeisio i wneud ein hadeilad mor hygyrch â phosib nid yw ein swyddfeydd ac ardaloedd cefn llwyfan, lle bydd rhannau o’r perfformiad yn digwydd, yn addas ar gyfer pobl anabl neu bobl gyda phroblemau symudedd gwaetha’r modd. Mae siwrne arall ar gyfer yr aelodau yma o’r gynulleidfa ar gael, er mwyn peidio effeithio ar y profiad theatraidd. Byddwch mor garedig â rhoi gwybod i’r Swyddfa Docynnau am unrhyw anghenion mynediad arbennig wrth ichi archebu tocynnau.
*Oherwydd anhawsterau technegol fedrwn ni ddim prosesu unrhyw archebion arlein pellach ar gyfer Oedipus|Antigone. Mae tocynnau ar gael dydd Llun - dydd Gwener, 10yb - 3yh drwy ffonio 029 2064 6900. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd.*





