3D
Richard Parker
Dyddiadau:
25 September 7.30pm & 9pm
Prisiau:
£5
Drama un act sy’n edrych ar y syniad o beth yw ‘cyd-ddigwyddiad’. A ydyn ni’n byw mewn byd ble mae cyd-ddigwyddiad yn realiti, neu a ydy’n byd ni mor gyforiog o bobl mai damweiniol yw unrhyw ganlyniad i bob digwyddiad?
Mae’r darn comig hwn yn darlunio’r foment pan mae dyn o’r enw Richard Parker yn digwydd cwrdd â dieithryn enigmatig ar fwrdd llong. Yn araf bach daw’n amlwg fod y dieithryn hwn am newid bywyd Richard am byth.





