Sherman Cymru
Gan Kaite O'Reilly
Cyfarwyddwr - Phillip Zarrilli
The Almond and The Seahorse
Dyddiadau:
29 Chwefror - 15 Mawrth 2008 8pm
Prisiau:
£10, £8. Cip Ymlaen Llaw £8, £6
Gwybodaeth ychwanegol:
Perfformiad Iaith Arwyddion gan Rachel Smith: Dydd Mawrth 11 Mawrth, 8.00pm
Clywedol gan Alastair Sill: Dydd Mercher 12 Mawrth, 8.00pm
“Rhowch eich pen drwy ffenest flaen y car ar 40 milltir yr awr ac mae bywyd yn troi’n loteri. Efallai y cofiwch chi bethau, ond efallai ddim..”
Wedi’r ddamwain ni ddaeth Gwennan yn ôl. Mae Tom yn credu iddynt anfon rhywun arall.
Mae Sarah wedi dweud fod Joe ar goll ond mae’n sefyll wrth ei hochr.
Carcharwyd pedwar bywyd mewn amser ond a all y goroeswyr ddod drwy’r llanast?
Drama newydd Kaite O’Reilly yw The Almond and The Seahorse, sy’n edrych ar freuder y cof a phŵer defosiwn.
Wedi’r perfformiadau yn Sherman mae’r cynhyrchiad hwn yn teithio – cliciwch yma am amserlen lawn.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn derbyn cefnogaeth gan yr Esmee Fairbairn Foundation.





