Clwyd Theatr Cymru
The Glass Menagerie
Dyddiadau:
Maw 10 - Sad 14 Tachwedd 7:30pm
Matinee 14 Tachwedd 2.30pm
Perfformiad â Chapsiynau: 12 Tachwedd
Prisiau:
£14, £12, Gan 19 £8
The Glass Menagerie yw drama fawr gyntaf Tennessee Williams, ac un o glasuron pwysicaf y llwyfan Americanaidd. Ym mudreddi a thlodi tenement yn St Louis ym 1937 mae’r Wingfields yn breuddwydio am fywyd gwell. Mae Amanda’n glynu’n ffyrnig at ei gorffennol bonheddig; mae Tom yn dioddef diflastod dyddiol ei waith mewn ffatri esgidiau, yn cyfansoddi cerddi’n gyfrinachol ac yn cynllunio ar gyfer dianc oddi yno, heb feddwl am neb arall; ac mae Laura’n chwarae gyda’i hanifeiliaid gwydr, wedi’i llesteirio gan swildod, yn breuddwydio am y bachgen ‘roedd yn ei garu yn yr ysgol uwchradd. Ond pan ddaw Tom â Jim O’Connor adref i swper mae breuddwydion a realiti’n gwrthdaro, ac mae’r canlyniadau’n drychinebus.
Yn eironig, yn ddoniol ac yn hynod o deimladwy, mae The Glass Menagerie yn ddrama deuluol fydd yn torri eich calon. Mae hefyd yn archwiliad barddonol o artaith y sawl sy’n wrthodedig.









