Two Gents Productions mewn cydweithrediad â UK Arts International
Two Gentlemen of Verona
Dyddiadau:
Maw 24 - Mer 25 Tachwedd 7:30pm
Prisiau:
£10, Gostyngiadau £8, Dan 19s £6
Two Gentlemen of Verona neu Vakomana Vaviri ve Zimbabwe gan William Shakespeare
O Ferona i Milan, drwy Harare a Bulawayo, mae dau ffrind da, Valentine a Proteus, yn cystadlu am gariad yr un fenyw. Pan gaiff Valentine ei alltudio, mae eu cyfeillgarwch yn cael ei fygwth, a thrwy dwyll a chynllwynio’n unig maent yn ailgymodi.
Yn null egnïol gorfoleddus ‘treflannau’ De Affrica, dau actor sy’n portreadu pymtheg cymeriad y ddrama – yn ariadon serchog, yn ferched pwdlyd, yn weision digalon a hyd yn oed yn gi!
Gan ddefnyddio nifer bychan o bropiau’n unig, ac ar set sy’n cynnwys fawr mwy na chist, mae’r actorion yn archwilio’r testun yn fanwl o safbwynt pobl Zimbabwe, ac yn defnyddio rhythmau estron ac anghyfarwydd er mwyn rhoi bywyd newydd i farddoniaeth Shakespeare.
Gyda’u llygaid barcud, eu greddf anhygoel a’u hamseru comic, mae’r actorion yn tynnu’r gynulleidfa i mewn i’r perfformiad ac yn cyflwyno profiad theatrig dwys a deniadol. Peidiwch a’i golli.





