Hay Productions
Benjamin Zephaniah
Dyddiadau:
Dydd Gwener 19 Mehefin, 7.30pm
Prisiau:
£12/£10
Ganed a magwyd Benjamin Zephaniah ym Mirmingham, ond mae dylanwad cerddoriaeth, barddoniaeth a ‘gwleidyddiaeth stryd’ Jamaica, chwedl Zephaniah, ar ei farddoniaeth ei hun. Yn y dyddiau cynnar ‘roedd ei waith yn hynod boblogaidd yn Handsworth, yn y cymunedau Affro-Caribïaidd ac Asiaidd, ond ‘roedd yn awyddus i gyfathrebu â chynulleidfa ehangach. Degawdau’n ddiweddarach mae repertoire hygyrch ac eclectig Benjamin, yn ogystal â’i ymddangosiadau niferus ar y teledu, wedi sicrhau mai ef yw un o feirdd perfformiadol mwyaf llwyddiannus y DU.
Mae sioe Benjamin Zephaniah yn rhan o raglen Wythnos Ffoaduriaid 2009. Cefnogwyd y digwyddiad yma gan Academi.







