Sherman Cymru & Theatr Iolo
Plentyn Yr Eira
Dyddiadau:
14 Rhagfyr - 01 Ionawr
Stwidio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
Prisiau:
£6
Plentyn yr Eira - Ar Daith
Hyd y gwêl y llygaid, mae’r byd yn aeafol wyn. Gwrandewch yn astud… gallwch glywed yr eira'n disgyn a'r rhew yn clecian.
Edrychwch eto, mae’r eira’n symud, ac yng ngoleuni hudol y lleuad mae Plentyn yr Eira'n dod yn fyw.
Beth fydd yn digwydd pan fydd y plant eraill yn ei darganfod yn y bore?
Gyda phypedau a cherddoriaeth fyw, bydd plentyn direidus yr eira a’r ddrama hudolus hon yn cynhesu pob calon y Nadolig hwn.
Oedrannau: 3-6 | Ceir perfformiadau Saesneg a Chymraeg
Prynwch Docynnau
Archebwch ar lein | Canolfan Mileniwm Cymru: 029 2063 6464
Pecyn Adnoddau Dysgu Plentyn yr Eira
Beth am drefnu ymweliad ychydig yn fwy hudolus â'r Sherman y Nadolig hwn? Beth am i'ch plentyn, neu'ch plant, dderbyn llythyr personol oddi wrth Siôn Corn? Mwy...
![]()















