Horse + Bamboo
Cyfarwyddwr Alison Duddle
Little Leap Forward
Dyddiadau:
Dydd Sadwrn 20 Mehefin, 11.00am & 6.00pm
Prisiau:
£6
Yn Little Leap Forward ceir hanes plentyndod Yue yn Tsieina yn ystod y Chwyldro Diwylliannol. Dyma stori am deulu, cyfeillgarwch a mynegiant creadigol, ond yn fwy na dim dyma stori am yr angen am ryddid.
Bydd y stori’n cael ei dweud gan ddefnyddio masgiau, pypedau, cysgodion ac animeiddio gyda cherddoriaeth wreiddiol gyfansoddwyd gan Loz Kaye. Bydd y gerddoriaeth hefyd yn cynnwys chwarae nodweddiadol Guo Yue ei hun ar y ffliwt.
Mae Little Leap Forward yn rhan o raglen Wythnos Ffoaduriaid 2009.






