Ysgolion Haf
11 Awst 2008 - 30 Awst 2008
Sherman Cymru
Tiwtor Time Quest - Alys Jenkins
Tiwtor Improv Academy - Paddy Faulkner
Tiwtor Adventures in Improvisation - Chris Johnston
Tiwtoriaid Street Akademi - Kaptin, Rmer, Sasquatch, Tumbleweed
Time Quest - Oedrannau 7-11
Antur un wythnos yn defnyddio gemau theatrig a chwedleua i fynd â'r cyfranogwyr ar daith yn ôl ac ymlaen mewn amser. Bydd pawb, gyda'i gilydd, yn creu capsiwl amser theatrig i'w rannu gyda'u teuluoedd a'u cyfeillion.
Improv Academy - Oedrannau 12-15
Sut i greu storiau a golygfeydd yn y fan a'r lle - cwrs difyr dros gyfnod o bythefnos fydd yn cyflwyno sylfaeni gwaith byrfyfr da i fyfyrwyr.
Adventures in Improvisation - Oedrannau 16-25
Dyma gwrs i bobl ifanc sydd eisoes wedi gwneud peth actio neu fyrfyfyrio ac sydd eisiau ehangu neu wella eu sgiliau. Golygfeydd, sgetshis, areithiau, storiau - mae popeth yn cael ei greu yn y fan a'r lle.
Higher Learning: Street Akademi - Oedrannau 12-20
Wythnos o weithdai cyffrous yn archwilio pedwar prif elfen Hip-Hop: 'Breakdancing', Rapio, DJio a Chelf Graffiti. Dysgwch sgiliau arbenigol i'w rhannu mewn perfformiad Hip-Hop unigryw ar y diwrnod olaf.
Prisiau:
Cwrs Un Wythnos: £75, £25
Cwrs Pythnefnos: £150, £50
Ages: 7 - 25
Dyddiadau ac amserau:
Time Quest: 11 - 15 Awst
Improv Academy: 11 - 22 Awst
Adventures in Improvisation: 11 - 22 Awst
Street Akademi: 26 - 30 Awst
Iaith y cynhyrchiad:
Saesneg
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae cofrestriad cynnar yn hanfodol - am fwy o wybodaeth ac i gofrestru cysylltwch â: jess.naish@shermancymru.co.uk
