Paines Plough | Birmingham Repertory Theatre | Roundhouse
mewn cydweithrediad gyda
The National Student Drama Festival | Latitude Festival
Wasted
Dyddiadau:
Dydd Sadwrn 24 Mawrth - Wedi Gwerthu Allan
Prisiau:
£14
“I’m making a decision. I’m changing things. This is it.”
Drama am gariad, bywyd a cholli pwyll. Tri hen ffrind. Un diwrnod rhyfeddol. Fydd bywyd byth yr un fath eto i Ted, Danny a Charlotte.
Gwibdaith lachar drwy barciau, rêfs a chaffis De Llundain, ble mae pawb yn gyfrifol am ei ffawd ei hun. Mae Wasted yn cynnig darlun o dri bywyd llai cyffredin mewn byd didostur.
Mae Kate Tempest yn awdur ifanc cyffrous, yn fardd ac yn berfformiwr, ac ar hyn o bryd yn cynhyrfu’r sîn hip-hop Brydeinig gyda’i band Sound Of Rum. Mae trac sain bywiog yn ychwanegu at y llwyfaniad dramatig yma o’i drama gyntaf.


Wasted: Theatr 2 |
|
| Dydd Sadwrn 24 Mawrth - Wedi Gwerthu Allan Cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau 029 2064 6900 |
8yh |









