ScriptSlam
Mae Script Slam yn ei ôl ond yn well nag erioed! Mae’r gystadleuaeth yn poethi. O hyn ymlaen bydd dim ond un ScriptSlam bob tymor a fydd yn ein galluogi i gyflwyno’r bedair drama orau a dderbyniwn yn unig.
Bydd pedair drama deg munud o hyd yn cael eu perfformio sgript-mewn-llaw gan griw o actorion proffesiynol. Wedi i bob drama gael ei pherfformio bydd panel o arbenigwyr o faes y theatr – awduron, actorion a chyfarwyddwyr, ynghyd â’n ‘Llais o’r Stryd’, yn cynnig eu barn a’u sylwadau. Yna bydd y gynulleidfa yn pleidleisio dros eu hoff ddrama.

ScriptSlam Tachwedd
Diolch i bawb ddaeth i'r Script Slam Hydref. Fe werthodd pob tocyn ac roedd rhaid troi pobl i ffwrdd wrth y drws! Bydd dyddiadau Script Slam Gwanwyn yn cael eu cyhoeddi yn fuan. Llongyfarchiadau i Janet Daniel wnaeth ennill hefo'i drama 'Shadows.'
Os hoffech anfon script ar gyfer Script Slam Gwanwyn y dyddiad cau i dderbyn eich script ydy Ionawr 31ain. Fe fyddwn ni hefyd yn cynnal Script Slam Cymraeg eto ym mis Awst ac rydym yn annog awduron Cymraeg i gysylltu a ni. Os am fwy o wybodaeth cysylltwch a Branwen.
Sgript Slam 'Steddfod
Roedd Sgript Slam Stedfod y Bala yn llwyddiant mawr hefo naw o ddramau, dau ddeg pedwar o actorion, pump cyfarwyddwr a wyth o arbennigwyr yn rhoi eu barn ar y dramau dros dridiau yn Theatr y Maes. Yn fuddugol eleni oedd Victoria Pugh hefo'i drama Mamau Moethus, Ofn gan Anni Llyn a Mi Glywaf Dyner Lais gan Glenn Jones. Roedd y safon yn uchel a rydym yn edrych ymlaen i fagu cysylltiadau hefo'r awduron newydd rydym wedi eu darganfod. Diolch i bawb am gymeryd rhan.

