ScriptSlam
Noson hwyliog o ysgrifennu newydd yn stiwdio y Sherman. Pob mis bydd pedwar drama fer newydd deg munud o hyd yn cael eu perfformio sgript mewn llaw gan griw o actorion proffesiynol.

Wedi i bob drama gael eu perfformio bydd panel o arbennigwyr o faes y theatr – awduron/actorion a chyfarwyddwyr yn cynnig eu barn a’u sylwadau ar bob darn.
Yna bydd y gynulleidfa yn pleidleisio am eu hoff ddrama. Bydd y ddrama fuddugol yn cael ei gynnwys yn y ffeinal. Bydd ennillydd y ffeinal yn cael y cyfle i gwrdd a thîm Llenyddol y Sherman er mwyn datblygu eu sgript ymhellach.
Mae cerddoriaeth fyw yn rhan o bob noson yn ogystal a’r Lledrithiwr Seicig Ross Hedley a fydd yn hudo’r gynulleidfa yn ardal y bar.
Yn cael ei gynnal rhwng mis Hydref a mis Ebrill mae Script Slam yn gyfle gwych i arddangos pytiau byrion o waith newydd.
Am fwy o wybodaeth neu i gyflwyno drama i Script Slam cysylltwch a Branwen
Galw Ar Awduron Cymraeg!
Talp o sgript mewn drôr? Syniad am ddrama? Cysylltwch hefo ni!
Yn dilyn llwyddiant diweddar Script Slam yn theatr y Sherman rydym am gynnal Sgript Slam Cymraeg am y tro cyntaf fel rhan o’n gweithgareddau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd eleni. Dros dridiau, byddwn yn cyflwyno perfformiadau sgript-mewn-llaw o naw drama dim mwy na 10 munud o hyd. Bydd panel o arbennigwyr, yn awduron a chyfarwyddwyr wrth law i roi barn ar y gwaith ond yn y pendraw y gynulleidfa fydd yn penderfynnu pa ddrama fydd yn mynd yn ei flaen i’r ffeinal.
Felly, os oes gennych chi ddrama fer (neu ddarn o ddrama) yr hoffech chi ei weld yn cael ei ddatblygu gan Sherman Cymru cysylltwch â branwen.davies@shermancymru.co.uk neu sian.summers@shermancymru.co.uk yn Adran Lenyddol y Theatr.
