Sgriptio

Y tu ôl i’r llenni yn Sherman Cymru mae tîm o bobl yn helpu awduron i ddatblygu eu gwaith ac i gynhyrchu’r dramâu gorau posib o Gymru. Mae prosiectau fel SgriptSlam, a’n Cwrs Awduron Ifanc yn rhoi cyfle i bobl ysgrifennu ar gyfer y llwyfan am y tro cyntaf, tra bod cyfle gan awduron mwy profiadol i ymuno yn ein Rhaglen Awduron Uwch.
Drwy gydol y flwyddyn mae ein Tîm Llenyddol yn canolbwyntio ar ddarganfod a meithrin lleisiau newydd drwy gyfrwng amrywiaeth o gyrsiau i awduron, dosbarthiadau meistr a sgyrsiau. Yn dilyn llwyddiant y rhain yng Nghaerdydd, mae’r rhaglen wedi ymestyn ledled Cymru fel rhan o fenter gyffrous Gair ar Led.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Siân Summers - Rheolwr Llenyddol 029 2064 6984
Sarah Bickerton - Cynorthwy-ydd Llenyddol 029 2064 6983





