Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau
029 2064 6900


Theatr Ieuenctid Sherman Cymru

Wrth eich bodd yn perfformio?

Sherman Cymru Youth Theatre

Os ydych rhwng 10 a 25 mlwydd oed ac yn byw neu’n mynd i’r ysgol yn Ninas & Sir Caerdydd, mae croeso mawr i chi ymuno â’n theatr ieuenctid llwyddiannus. Gyda gweithdai wythnosol dan arweiniad gweithwyr proffesiynol, cyfleoedd rheolaidd i berfformio, ac ymweliadau â’r theatr, byddwch yn datblygu amrywiaeth eang o sgiliau llwyfan ac yn cael profiad creadigol gwych.

Grŵp ar gyfer oedolion ifanc o 18- 25 mlwydd oed yw Company 4. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar ymarfer cyfoes sy’n cynnwys gwaith safle-benodol rhyngwladol.

Mae’r grwpiau hyn yn rhoi cyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan mewn profiadau theatrig safonol, heriol ac ystyrlon, ac fe’u harweinir gan bobl sy’n gweithio’n broffesiynol yn y diwydiant.

Am fwy o wybodaeth ynglyn ag ymaelodi cysylltwch â Phil Mackenzie