Ymddiriedolaethau & Sefydliadau
Fel sefydliad elusennol mae Sherman Cymru’n dibynnu’n fawr ar gefnogaeth y sector ymddiriedolaethau a sefydliadau. Mae’r arian ‘rydym yn ei dderbyn gan ymddiriedolaethau a sefydliadau’n galluogi i’r cwmni ddatblygu ac ymestyn y gwaith hollbwysig mae Sherman Cymru’n ei wneud gyda’r cymunedau ‘rydym yn eu gwasanaethu.
Mae cefnogaeth flaenorol gan y sector hwn wedi galluogi i Sherman Cymru gyflawni’r canlynol:
- Cyflwyno a sefydlu Rhaglen Ymgysylltu Gymunedol arloesol, yn gweithio â ffoaduriaid a phobl sydd wedi eu dadleoli sy’n byw yn y cymunedau lleol
- Teithio cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg ledled Cymru a gweddill Prydain
- Comisiynu a datblygu talent ysgrifennu newydd sy’n ymddangos drwy fentrau datblygu awduron penodol
- Cryfhau ac ehangu gwaith Adran Dysg & Ymgysylltu’r cwmni
- Datblygu’r prosiect unigryw ‘Acting Out’ Caerdydd - prosiect i bobl ifanc 14-16 mlwydd oed sy’n ei gweld yn anodd dysgu mewn ystafell ddosbarth
Am wybodaeth bellach am waith datblygu Sherman Cymru ac i ddarganfod sut gallwch chi gymryd rhan, cysylltwch ag Emma Goad, Pennaeth Datblygu.
