Sherman Cymru

Swyddfa Docynnau 029 2064 6900
 

Ymrwymiad A'r Gymuned

New Arrivals 1

Mae Prosiect Ymrwymiad â’r Gymuned Sherman Cymru yn rhoi cyfle artistig i geiswyr lloches a ffoaduriaid weithio’n greadigol ochr yn ochr ag aelodau o’r cymunedau sy’n eu derbyn i’w plith. ‘Rydym yn cynnal gweithdai wythnosol, a gallwn hefyd gynnal gweithdai unigol i sefydliadau ceiswyr lloches/ffoaduriaid, i grwpiau cymunedol ac i ysgolion. Mae ein gweithdai’n cynnig lle diogel ar gyfer dysgu creadigol i alluogi’r cyfranogwyr i ddysgu sgiliau newydd, tra ar yr un pryd yn datblygu hyder a hunan barch. Mae’r gweithdai hefyd yn rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd sy’n byw yn eich cymuned.

‘Rydym yn awyddus iawn i weithio mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau Cymunedol. Os oes gennych chi syniad neu brosiect efallai y gallwn ei wireddu drwy gyd-weithio, rhowch ganiad i ni drefnu cyfarfod.

Company 5

Ydych chi eisiau actio?
Ydych chi eisiau gwella eich sgiliau cyfathrebu a gweithio fel rhan o dîm?

‘Rydym yn edrych am unrhyw un sy’n 18 mlwydd oed a hyn o gefndiroedd a diwylliannau amrywiol, i’n helpu i greu grwp theatr newydd. Bydd y grwp yn cyfarfod bob wythnos i ddysgu sgiliau newydd gan gynnwys gwaith symud, actio a llais wrth hefyd ddatblygu hyder a sgiliau cyfathrebu. Bydd y grwp hefyd yn gweithio ar gynyrchiadau bychan eu maint yn, ac o amgylch Caerdydd er mwyn i chi rannu’r hyn ‘rydych wedi ei ddysgu gyda aelodau o’r gymuned. Cewch ymuno yn rhad ac am ddim ac nid oes raid i chi feddu ar unrhyw brofiad blaenorol.

Os ydych rhwng 14 – 20 mlwydd oed ac yn ffoadur, yn geisydd lloches, neu os nad ydych yn derbyn addysg, ddim yn cael eich cyflogi, nag yn cael eich hyfforddi (NEET) yna ‘rydych hefyd yn gymwys i gymryd rhan yn Acting Out Caerdydd.

Am fwy o wybodaeth am weithdai a phrosiectau Ymrwymiad a'r Gymuned yna cysylltwch â Jason Camilleri neu Llinos Mai / 029 2064 6908

Grwp Canu Cymunedol y Menywod

Fyddech chi’n hoffi canu gyda menywod o wahanol gefndiroedd a diwylliannau? Wel, dewch i ymuno â’n grwp canu sy’n cwrdd yn wythnosol. Gallwch ddysgu technegau canu syml; canu caneuon gwerin o bob gwlad dan haul; ymlacio a mwynhau cwmni’ch gilydd. Nid oes angen unrhyw brofiad canu, ac mae croeso i bob menyw ymuno. Mae ardal chwarae fechan ar gyfer y plant ieuengaf ar gael hefyd.


Bob Dydd Mercher - 12.00 -1.30yh, Phoenix House, 389 Newport Road, Caerdydd

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Fleur Missaghian /07969768939

Noddir y Prosiect Ymrwymiad â'r Gymuned gan Paul Hamlyn Foundation

Logo Paul Hamlyn

Logo